Tymor yr Hydref 2010 / Athrawon Cymru 2
NUT yn dweud wrth Plaid: ‘Caewch y bwlch ariannu’
Roedd gan yr NUT gynrychiolaeth gref yng nghynhadledd Plaid Cymru eleni a gynhaliwyd yn Aberystwyth rhwng y 9fed a’r 11eg o Fedi 2010.
Arweiniwyd y gynrychiolaeth gan y prif swyddogion Stuart Williams a Glesni Jones. Cafwyd y cyfl e i drafod gydag arweinydd y blaid, Ieuan Wyn Jones ac Aelodau Cynulliad eraill gan gynnwys Bethan Jenkins, llefarydd y blaid ar dlodi plant, ynglyn ag ymgyrchoedd yr Undeb yng Nghymru.
Yn y llun gwelir Ieuan Wyn Jones a Stuart Williams gyda thafl en o un o’n ymgyrchoedd pwysicaf, Chwarae Teg i Blant Cymru. Mae’r ymgyrch yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i leihau’r bwlch ariannu rhwng disgyblion yng Nghymru a Lloegr. Ar gyfartaledd, mae £527 y fl wyddyn yn llai yn cael ei wario ar addysg disgyblion yng Nghymru nac yn Lloegr.
Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch, gweler tudalen 1 ac ewch i
www.teachers.org.uk/walesfunding.
Gwaredu hiliaeth o’n hysgolion
Mae’r NUT yn gweithio gyda’r elusen Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth (DCCH) er mwyn gwaredu hiliaeth mewn ysgolion.
Dangosodd ymchwil diweddar gan DCCH nad oedd 80 y cant o athrawon wedi derbyn hyfforddiant ar sut i ymdrin â hiliaeth mewn ysgolion. Ymateb yr elusen oedd i gynnal cynhadledd Cydraddoldeb mewn Addysg ar Fedi’r 29ain – a noddwyd gan yr NUT – i fyfyrwyr yng Nghymru yng Ngholeg y Drindod, Caerfyddin.
Y nod oedd i addysgu athrawon y dyfodol – yn y cyswllt yma, myfyrwyr blwyddyn olaf y cwrs BA(SAC) – sut i ymdrin â’r mater ac addysgu disgyblion o ddiffyg moesau hiliaeth.
Cafodd y myfyrwyr y cyfl e i wylio drama rhyngweithiol gan Theatr Fforwm Cymru, gwrando ar siaradwyr gan gynnwys Farrukh Khan o Estyn, Steve Bowden o Lywodraeth Cynulliad Cymru aPaul Hoskins o swyddfa’r Comisynydd Plant. Roedd gweithdai ar sut i addysgu addysg bersonol a chymdeithasol, roedd cyfranogwyr hefyd yn edrych ar ddrama, meddwl critigol, athroniaeth i blant a therminoleg.
• Trefnwyd rhagor o gynadleddau yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â
wales@theredcard.org neu ffoniwch 029 2034 0422
Ymgeisiwch yng nghystadleuaeth y DCCH i ysgolion er mwyn ennill gliniadur, tocynnau i gêm, peli droed a chrysau wedi’u llofnodi a llawer iawn mwy.
Mae angen cofrestru erbyn 25ain o Chwefror 2011. Dewch o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch ar y dull hwn o annog plant i feddwl am y mater yn
www.theredcard.org/educational/competitions/wales.
Yn gwneud safi ad yn yr Eisteddfod
Roedd stondin yr NUT yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy eleni yn llawn bwrlwm, gan groesawu nifer o ymwelwyr ac aelodau’r NUT.
Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i ddileu cyllid DPP trwy Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, gwahoddwyd aelodau i leisio eu barn ar y cyfl eoedd dysgu yr hoffent i’r Undeb eu cynnig. Roedd yr ymateb yn frwdfrydig.
Roedd gwaith celf y disgyblion oedd yn addurno’r stondin yn atyniad poblogaidd.
Cyfrannwyd y gwaith gan Ysgol Gymraeg Brynmawr, sydd bellach wedi symud a newid ei henw i Ysgol Gymraeg Bro Helyg, ac Ysgol Uwchradd NantyGlo, a gaeodd ym mis Awst, gyda’r disgyblion a’r staff yn adleoli i ysgolion uwchradd Abertyleri a Brynmawr.
Am fwy o wybodaeth ar DPP NUT, ewch i
www.teachers.org.uk/cpd.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4