Tymor yr Hydref 2010 /Athrawon Cymru 3
Yn eisiau: Cynrychiolydd ym mhob ysgol
Mae’r NUT yn falch bod ganddi gynrychiolwyr ym mron pob ysgol yng Nghymru.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae’r undeb yn ffodus bod criw o athrawon ymroddedig sy’n gweithio fel cynrychiolwyr ysgol dros yr NUT. Maent yn gwneud gwaith hanfodol megis recriwtio aelodau newydd, trefnu cyfarfodydd NUT mewn ysgolion, yn cynorthwyo ac yn cynnig cyngor i aelodau, yn hyrwyddo polisi yr NUT a chynnig cyswllt hanfodol rhwng aelodau, rhanbarthau NUT, cymdeithasau yr NUT a chyda swyddfa NUT Cymru.
Mae’r undeb wedi adnabod nifer fawr o gynrychiolwyr newydd yn ddiweddar – gyda rhif syfrdanol o 531 wedi’u recriwtio yn barod eleni. O ganlyniad i’r llwyddiant hwn, trefnwyd cyrsiau hyfforddi i’r recriwtiaid newydd.
Dywedodd David Evans, Ysgrifennydd Cymru: “Mae’r llwyddiant a gawsom eleni wrth recriwtio cynrychiolwyr ysgol newydd yn wych. Y freuddwyd yw bod cynrychiolydd NUT ym mhob ysgol yng Nghymru ac mae’r gwaith rydym yn ei wneud yn ein gwthio yn agosach at y nod hwnnw.
“Mae’r cynrychiolydd ysgol yn ffigwr hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau i aelodau. Rydym ni yn NUT Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod y cynrychiolwyr yn derbyn pob cymorth ac yn gyfforddus yn eu gwaith.”
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglyn â dod yn gynrychiolydd ysgol, neu sut i chwarae rhan gweithredol yn yr NUT mewn ffyrdd eraill trwy ymweld â
www.teachers.org.uk/getinvolved.
Cyrsiau cynrychiolwyr ysgol yn 2011
• 3ydd Chwefror 2011 – Lefel 1 Rhan 1, Holiday Inn, Coldra, Casnewydd
• 10fed Chwefror 2011 – Lefel 1 Rhan 1, Gwesty Llety Parc, Aberystwyth
• 29ain Mehefin 2011 – Lefel 1 Rhan 1, Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd
• 8fed Tachwedd 2011 – Lefel 1 Rhan 2, Holiday Inn, Coldra, Casnewydd
• 10fed Tachwedd 2011 – Lefel 1 Rhan 2, Gwesty Llety Parc, Aberystwyth
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn gynrychiolydd ysgol a mynychu un o’r cyrsiau, cysylltwch â Lisa Taverner yn NUT Cymru ar 029 2049 1818.
Yr enillydd yw…
Cafodd sawl aelod o’r NUT eu hanrhydeddu yn 12fed seremoni wobrwyo’r Gwobrau Addysgu yng Nghaerdydd am eu cyfraniad i waith ar lawr dosbarth ar draws Cymru. Gweler y rhestr isod.
Enillydd Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Gynradd oedd Llew
Davies o Ysgol Cae Top yng Ngwynedd. Yn yr un categori, daeth Shan Kenchington (Ysgol Fabanod Mount Street, Powys) a Victoria Cowx (Ysgol Gynradd Gatholig St Anne, Wrexham) yn agos i’r brig.
Daeth Sian Lewis (Ysgol Emrys ap Iwan, Conwy) yn agos i’r brig yng nghategori Athro Newydd y Flwyddyn. Daeth Carys Jones (Ysgol Manod, Gwynedd) yn agos i’r brig yng nghategori Pennaeth y Flwyddyn mewn ysgol Gynradd a daeth Iona Lewis (Ysgol Uwchradd Abertyleri, Blaenau Gwent) yn agos at y brig yng Nghategori Hyrwyddo’r Gymraeg mewn Ysgol.
***
Ym mis Mehefin, enwyd Ysgol Arbennig St Christopher yn Wrecsam, y mwyaf yng Nghymru, yn Ysgol Arbennig y Flwyddyn yng ngwobrau’r TES am ei gwaith arloesol yn cynnal disgyblion.
Mae gan yr ysgol nifer o gynlluniau cynhwysiant ac mae’n fwrlwm o entrepreneuriaeth, gyda’r disgyblion yn rhedeg golchfa geir, caffi a siop. Dywedodd y beirniaid eu bod yn medru synhwyro’r uchelgais sydd gan yr ysgol dros bob un o’i disgyblion.
Uchod: Maxine yn derbyn gwobr ei hysgol wrth yr actor Alexander Armstrong. (Llun: Charles Fox.) Dde: Llew yn y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd.
Mae’r pennaeth Maxine Pittaway, sy’n aelod o’r NUT, wedi ennill nifer o wobrau yn ystod y blynyddoedd diweddar ac wedi derbyn clod gan Estyn a Llywodraeth y Cynulliad.
• Darllenwch am Ysgol St Christopher yn rhifyn Ysgolion Arbennig, Athro i Athro yr NUT. Mae hwn ar gael ar lein yn
www.teachers.org.uk/ teachertoteacher.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4