search.noResults

search.searching

note.createNoteMessage

search.noResults

search.searching

orderForm.title

orderForm.productCode
orderForm.description
orderForm.quantity
orderForm.itemPrice
orderForm.price
orderForm.totalPrice
orderForm.deliveryDetails.billingAddress
orderForm.deliveryDetails.deliveryAddress
orderForm.noItems
22 Newyddion


THE HERALD FRIDAY JANUARY 27 2017


Follow us on Twitter @ceredigherald


Cerddwyr Cylch Teifi AR EIN taith fis Ionawr buom


yn ardal Carreg Wen a Llechryd dan arweiniad Dyfed a Siân Elis- Gruffydd. Gan ddechrau wrth Gapel y


Bedyddwyr Cilfowyr, cerddon ni draw i bentref Carreg-wen i weld yr eglwys, ac wedyn i lawr y lôn i hen eglwys Maenordeifi ac wedyn Pont Llechryd ac yn ôl i'r man cychwyn. Fel y disgwylid, cawsom hanesion diddorol am y capel, yr eglwysi, y meini adeiladu a hynt Afon Teifi a dyffryn Teifi. Bu'n daith ddifyr iawn, ar lonydd pert yr ardal mewn tywydd da, a digon o gloncian wrth gerdded. Fis Chwefror 11 awn i ardal Ffynonnau, Capelnewydd, gyda


Howard Williams yn arwain. Byddwn yn gadael y maes parcio ger Llyn Ffynonnau (SN 243 382; ardal cod post SA37 0HQ) am 10:30yb; wrth y groesffordd ar ochr Cenarth i Gapelnewydd, trowch oddi ar y B4332 i’r heol fach heibio i Blasty Ffynonnau am ryw filltir i gyrraedd y maes parcio. Bydd yn daith linynnol ryw 2½ milltir a dwy awr yn bennaf ar draciau da. Awn ni ar y llethrau uwchlaw Coed Ffynonnau trwy Gwm Blaen Bwlan cyn troi at y fferm Penrallty ac wedyn i Eglwys Sant Colman lle caiff gyrwyr gludiant yn ôl i’r man cychwyn. Bydd yr esgyniad yn gyfanswm o tua 400 troedfedd, braidd yn serth ar y dechrau ond yn raddol wedyn. Wrth gerdded,


cawn hanes stad Ffynonnau, y goedwig a phlwyf Capel Colman, golygfeydd gwych dros y cwm tuag at Frenni Fawr a Frenni Fach, gan fwynhau naws anghysbell yr ardal. Wedyn, i’r rhai sydd eisiau, gallwn gymdeithasu yn Nhafarn y Nag’s Head, Aber-cuch. Mawrth 11, Ffynnon Ofuned


Trefdraeth fydd ein cyrchfan, gyda Reg Davies yn arweinydd. Byddwn ni’n gadael y Ganolfan i Ymwelwyr ar bwys maes parcio Heol Hir, Trefdraeth (SN 057 392; Cod post SA42 0TN) am 10:30yb. Bydd yn daith ddwy awr ond llai na dwy filltir, gylchog yn bennaf, ar heolydd tawel a llwybrau cyhoeddus. Awn ni i fyny o’r dref i gyfeiriad Carn Ingli, i gyrraedd Carn Cŵn a Ffynnon


Cystadleuaeth Coginio Coleg Ceredigion CAFWYD dydd Gwener


anarferol a chyffrous ar gampws Aberteifi yn ddiweddar pan deithiodd myfyrwyr Arlwyo campws Aberystwyth i Fwyty Maes y Parc ar gampws y coleg yn Aberteifi i gwrdd a’u cyd-myfyrwyr Arlwyo i gymryd rhan mewn her goginio. Ar gyfer y gystadleuaeth


rhannwyd y myfyrwyr i dimau o ddau – un o bob campws. Roedd hon yn dipyn o her o gofio nad oedd y myfyr wyr wedi cwrdd o’r blaen heb son am gyd-weithio. Roedd rheolau’r gystadleuaeth yn


syml – rhoddwyd basged i bob tîm yn cynnwys y cynhwysion canlynol: brest cyw iâr, 1 cenhinen, 1 moronen, 50g o gaws, 1 pupur coch, 250g o fenyn, 400g o datws, 300ml o hufen, 50g o siocled, 1 oren ac 1 lemwn. Gan ddefnyddio’r cynhwysion o’i blaenau gofynnwyd i’r timau gyflwyno prif gwrs a phwdin. Cafodd y myfyrwyr awr i baratoi ac i ymchwilio cyn i’r her ddechrau gyda dwy awr a hanner i greu eu campweithiau. Llwyddodd bob tîm gyflwyno pryd


dau gwrs unigryw o fewn yr amser a osodwyd cyn i gyn ddarlithydd


Arlwyo’r Coleg, Howard Powell, orfod wneud y penderfyniad anodd o ddewis enillwyr. Wrth feirniadu, dywedodd Howard Powell bod ‘pob pryd a gyflwynwyd heddiw o ansawdd uchel iawn, a phob pâr wedi creu prydau gwreiddiol a oedd yn dangos technegau coginio traddodiadol a modern’. Ar ôl disgwyl yn nerfus am y


canlyniad, cyhoeddwyd taw Ffion Bankes o gampws Aberystwyth ac Erin Buckland o gampws Aberteifi oedd yr enillwyr ac fe’u cyflwynwyd gyda chit


garnisio proffesiynol â thaleb gwerth £20. Y prydau buddugol oedd cyw iâr wedi ei ffrio gyda llenwad o gaws a’i orchuddio gyda briwsion bara, sglodion wedi eu coginio ddwywaith gyda saws bernais a phei lemon meringue unigol gyda hufen Chantilly i bwdin.


Mae’r coleg yn ddiolchgar i


Nisbets am eu haelioni yn noddi’r gystadleuaeth. Roedd hi’n ddiwrnod llwyddiannus dros ben a’r gobaith yw gwneud rhywbeth tebyg eto yn y dyfodol agos


Binne yn ymyl y rhostir; wedyn i lawr ar heolydd gwahanol. Bydd tipyn o ddringo yn yr hanner cyntaf a gall rhannau bach fod yn llithrig. Fydd dim sticlau, a'r esgyniad fydd tua 350 troedfedd. Clywn am hanes ffynhonnau’r dref a’i chyflenwad dŵr, a grymoedd cudd Ffynnon Binne. Cawn fwynhau golygfeydd gwych dros y dref a blodau’r gwanwyn. Wedyn, gallwn gymdeithasu yn Blas at Fronlas neu VicNorth yn Heol y Farchnad. Bydd croeso cynnes i bawb ar bob


taith. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Philippa Gibson - 01239 654561 neu philippa.gibson@gmail.com.


Dyddiadau'r Teithiau nesaf: Chwefror 11: Ardal Ffynonnau, Capelnewydd. Gadael y maes parcio ger Llyn Ffynonnau (SN 243 382; ardal cod post SA37 0HQ) am 10.30yb. Arweinydd: Howard Williams. Mawrth 11: Ardal Trefdraeth. Gadael maes parcio Trefdraeth, Heol Hir. (SN 057 392) (Cod post SA42 0TN) am 10.30yb. Arweinydd: Reg Davies. Ebrill 8: Llandudoch, taith arddwriaethol newydd. Gadael maes parcio Llandudoch (SN165 460) (Côd post SA43 3ED) am 10.30yb. Arweinwyr: Vanya Constant ac Ingrid Marcham.


Proseswyr cig coch yn paratoi ar gyfer cyfleoedd yn UDA


TRA BOD trafodaethau


gwleidyddol yn parhau am fargen fasnachu drawsatlantig, mae allforwyr cig coch, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r cwmnïau sydd berchen y tri safle mwyaf yng Nghymru, wedi ymweld â Washington DC er mwyn dysgu mwy am reoliadau’r Unol Daleithiau ar gyfer mewnforio cig oen ac eidion. Bu gwaharddiad ers rhai


blynyddoedd ar allforio cig coch o Brydain i’r UDA, ond codwyd gobeithion y llynedd y gallai’r fasnach ailgychwyn cyn hir. Penderfynodd Adran Amaeth yr Unol Daleithiau (USDA) gynnal ymgynghoriad ar newid ei rheolau ar iechyd anifeiliaid er mwyn eu gwneud yn gyfatebol â gwledydd eraill. Trefnwyd yr ymweliad gan


broseswyr gan Bartneriaeth Ardystio Allforion y Deyrnas Unedig (UKECP), corff y mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn rhan ohono, ar


y cyd â chyrff cig coch cyfatebol o rannau eraill o Brydain. Yn ôl Swyddog Gweithredol


Allforion HCC, Deanna Leven: “Gall y farchnad Americanaidd am Gig Oen Cymru fod werth hyd at £20 miliwn y flwyddyn i’n heconomi. Mae yna waith diplomataidd i’w wneud o hyd er mwyn sicrhau mynediad, ac mae disgwyl i swyddogion o’r USDA ddod yma eleni i archwilio ein safleoedd prosesu. “Ond mae’n bwysig gwneud


popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod ein diwydiant yn barod os daw’r cyfle i allforio. Dyna pam fod yr ymweliad yma’n bwysig; i helpu’r cynrychiolwyr i ddeall rheolau’r porthladdoedd, cynlluniau archwilio’r UDA a’u polisïau profi. Mae HCC yn dal i fod yn obeithiol, petasen ni’n cael mynediad i’r farchnad i’n Cig Oen Cymru PGI a’n Cig Eidion Cymru PGI o safon uchel, y byddai’r cynnyrch yn dod yn boblogaidd ymhlith cwsmeriaid Americanaidd.”


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28  |  Page 29  |  Page 30  |  Page 31  |  Page 32  |  Page 33  |  Page 34  |  Page 35  |  Page 36  |  Page 37  |  Page 38  |  Page 39  |  Page 40  |  Page 41  |  Page 42  |  Page 43  |  Page 44  |  Page 45  |  Page 46  |  Page 47  |  Page 48