This book includes a plain text version that is designed for high accessibility. To use this version please follow this link.
Eich llais yn TUC Cymru


Roedd gan yr NUT ddirprwyaeth gref yn TUC Cymru 2012 a gynhaliwyd yn Llandudno rhwng 22 a 24 o Fai.


Dylanwadwyd y gynhadledd yn gryf gan yr agenda toriadau yn y sector gyhoeddus, ymosodiadau ar bensiynau a chyflog rhanbarthol.


Cyflwynodd David Evans, ysgrifennydd NUT Cymru gynnig ar reoliadau gweithwyr asiantaeth, a chytunwyd yn unfrydol â’r cynnig. Cyflwynodd Garhard Williams o Ferthyr Tydfil gynnig yn gwrthwynebu bandio ysgolion, a siaradodd Clare Jones o Rhondda Cynon Taf yn erbyn y Strategaeth Gwella Ysgolion fel mae’n sefyll yn bresennol.


Eiliodd pump o’r ddirprwyaeth gynigion, gan gynnwys ar ddiweithdra ymysg ieuenctid, consortia addysg a DPP.


 


Aelodau Gweithredol Newydd


Etholwyd Angela Jardine a Clare Jones i ymuno â Neil Foden, a gafodd ei ail ethol, i bwyllgor NUT Cymru.


Angela yw cadeirydd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CACC) ac mae’n dysgu Cymraeg fel ail iaith yn Ysgol Gynradd Gabalfa yng Nghaerdydd. Mae Clare yn ysgrifennydd rhanbarthol dros Rhondda Cynon Taf. Mae Neil yn bennaeth ar Ysgol Friars ym Mangor ac yn ysgrifennydd rhanbarth ar gyfer Gwynedd.


Fe fydd y tri nawr yn Aelodau Gweithredol ar gyfer yr Undeb dros Gymru rhwng 2012 a 14.


 


Roedd ysgrifennydd Cymru David Evans, sy’n aelod gweithredol o TUC Cymru, yn rhan o ddirprwyaeth y TUC i’r TUC Albanaidd yn Inverness yn Ebrill. Wrth siarad am y toriadau, daeth i’r casgliad: “Ein haelodau, ein pensiynwyr, ein gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus, yr ifanc, y tlawd a’r rhai ar fudd-daliadau yw’r rhai a dargedwyd i dalu am hyn... mae’n rhaid i ni barhau i wrthwynebu hyn mor gryf ac angerddol ag erioed.”


 


Dewch yn gynrychiolydd


Mae’r NUT yn falch bod ganddi gynrychiolydd ym mron pob ysgol yng Nghymru. Ac yn y rhan fwyaf o’r ysgolion hyn mae yna athro sy’n gynrychiolydd, yn recriwtio aelodau newydd, yn cynnig cyngor, yn hyrwyddo polisïau’r Undeb ac yn cysylltu â’r NUT lleol.


Adnabu ymarfer diweddaru diweddar fod cynnydd yn y nifer o gynrychiolwyr ysgol. Trefnwyd hyfforddiant ar gyfer cynrychiolwyr newydd. Cynhelir cwrs yng Nghasnewydd ar 12 Hydref ac fe fydd sesiynau hyfforddi hwyrnos ym Mhowys, Sir Fynwy, Torfaen a Blaenau Gwent cyn diwedd 2012.


Mae NUT Cymru yn darparu cefnogaeth gynhwysfawr i gynrychiolwyr fel y gallant fod yn gyfforddus wrth eu gwaith, gan gynnwys hyfforddiant rhad ac am ddim i’r cynrychiolydd.


Os oes diddordeb gennych i ddod yn gynrychiolydd ysgol ac i fynychu un o’r cyrsiau, cysylltwch â Lisa Taverner yn swyddfa NUT Cymru ar 029 2049 1818.


Am fanylion ar sut i ddod yn gynrychiolydd, neu i chwarae rhan mewn ffordd arall gyda’r NUT, ewch i www.teachers.org.uk/getinvolved.






Cymorth Cadarn…


Fel yr undeb athrawon mwyaf, gallwn gyn- nig y gwasanaeth gorau i’n haelodau. Mae ein tîm proffesiynol yn barod i gynnig eu harbenigedd i’n rhwydwaith o gynrychiolwyr mewn ysgolion a cholegau ac ysgrifeny- ddion cymdeithasau a rhanbarthau. Os oes gennych broblem yn y gwaith neu yr hof- fech wybod mwy yngl^yn â gwasanaethau i aelodau’r NUT, cysylltwch â:


l  eich cynrychiolydd ysgol neu goleg


l  ysgrifennydd eich cymdeithas neu ranbarth


l  swyddfa NUT Cymru.


NUT Cymru Ty Sinnott, Llys Neifion, Ffordd Vanguard, Caerdydd CF24 5PJ Ffôn: 029 2049 1818 Ffacs: 029 2049 2491 Ebost: cymru.wales@nut.org.uk


Ysgrifennydd Cymru: David Evans


Swyddogion Cymru: Gareth Lloyd, Debbie Scott


Swyddog Trefnu a Chyfathrebu Cymru: Stuart Williams


Cyfreithiwr Cymru: Sarah Weaver


Swyddog Polisi Cymru: Owen Hathway


Aelodau ‘r Pwyllgor Gwaith: Neil Foden, Angela Jardine, Clare Jones


Prif Swyddfa’r NUT National Union of Teachers, Hamilton House, Mabledon Place, London WC1H 9BD


Ffôn: 020 7388 6191 Ffacs: 020 7387 8458 Gwefan yr NUT: www.teachers.org.uk


Llywydd: Marilyn Harrop


Ysgrifennydd Cyffredinol: Christine Blower

Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4