Page 2
Lleihau’r pwysau
Dysgodd aelodau’r NUT yng Nghastell Nedd Port Talbot am ddelio â’r pwysau gwaith sydd ynghlwm a bod yn athro ym mis Mai, fel rhan o ddiwrnod hyfforddiant iechyd emosiynol.
Trefnwyd y digwyddiad gan gynrychiolwyr dysgu rhanbarth Castell Nedd Port Talbot, Jan Hoggan a Roberto de Benedictis.
Arweiniwyd y diwrnod gan Jonathan Bocklemann-Evans, aelod o’r Sefydliad Human Givens a’r Gymdeithas Rheoli Straen Rhyngwladol, gyda chefnogaeth Simon Ward, pennaeth y Ganolfan Astudiaethau Maes. Cyflwynwyd darlith a gweithdai ymladd straen ganddynt gyda’r bwriad o roi’r sgiliau i aelodau’r NUT i ymdopi â phroblemau sy’n gysylltiedig â straen.
Os oes gennych syniad yr hoffech fod yn destun digwyddiad DPP yn y dyfodol yng Nghymru, cysylltwch â Stuart Williams ar 029 2049 1818 neu e bostiwch
s.williams@nut.org.uk
Dweud na wrth hiliaeth
Daeth disgyblion ac athrawon o dros Gymru i Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn Ebrill ar gyfer cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth (DCCH) 2012. Cyflwynwyd y gwobrau gan gyflwynwyr teledu Cymraeg Lisa Rogers a Dylan Ebenezer.
Roedd naw categori. Derbyniodd yr enillwyr eu gwobrau – gan gynnwys tocynnau i gemau pêl-droed a rygbi a chrysau pêl droed Cymru wedi’u llofnodi – gan sêr y byd rygbi, pêl-droed gan gynnwys enwogion eraill.
Y prif enillydd oedd Libby Jenkins o Ysgol Uwchradd Bryntirion ym Mhen-y-bont. Tynnwyd sylw’r beirniaid gan ei chynllun crys-t effeithiol. Derbyniodd liniadur ar gyfer ei hysgol, a roddwyd gan yr NUT fel rhan o’n cefnogaeth i DCCH a’n hymrwymiad i waith gwrth hiliaeth mewn ysgolion.
Gwelir Libby yn y llun gyda’i thystysgrif a’i chliniadur, gyda Lisa Rogers, Dylan Ebenezer, Stuart Williams o’r NUT, cyn gapten rygbi Cymru Colin Charvis a Richard Landy, Cyfarwyddwr Addysg Pen-y-bont.
Ac yn edrych i’r dyfodol...
Bu Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth (DCCH), gyda chymorth ariannol gan yr NUT, yn cynorthwyo athrawon y dyfodol i daclo hiliaeth yn yr ystafell ddosbarth.
Dysgodd tair cynhadledd i fyfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru – Casnewydd, Abertawe a’r Drindod Dewi Sant – dros 500 o fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf ar sut i ddelio a’r mater ac addysgu disgyblion am yr hyn sy’n anghywir mewn hiliaeth trwy wersi ABCh. Cynhelir cynhadledd arall ym Mhrifysgol Bangor yn yr Hydref.
Os hoffech i DCCH i gyflwyno gweithdy yn eich ysgol, cysylltwch â Simon Richards trwy e bost
simon@theredcardwales.org
Un gallwch ddibynnu arno
Dewch o hyd i wybodaeth am sut y gallwch arbed arian trwy ddefnyddio’ch cerdyn gostyngiadau Countdown NUT trwy ymweld â
www.countdown.com
Fe fydd aelodau’r NUT yn derbyn cerdyn Countdown yn awtomatig sy’n eich cysylltu â gostyngiadau ar y stryd fawr a gostyngiadau lleol – o siopau i wyliau a llawer iawn mwy.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4