Page 1
Athrawon Cymru
Gan yr NUT ar gyfer holl athrawon Cymru
Rhifyn 42 Tymor yr Haf 2012
Yr NUT yn Eisteddfod yr Urdd
Cynhaliwyd g ^wyl ieuenctid mwyaf Ewrop yng Ngholeg Glynllifon ger Caernarfon yng Ngwynedd ym Mehefin. Gwelodd stondin yr NUT nifer o ymwelwyr gan gynnwys plant o Ysgol Bro Lleu. Daethant i weld eu gwaith celf, a arddangoswyd gan aelodau’r NUT Donna Roberts a Christine Barker-Jones.
Dywedodd ysgrifennydd NUT Cymru: “Yn flynyddol, daw degau o filoedd i’r digwyddiad hwn, sy’n ei wneud yn gyfle gwych i drafod materion addysgiadol gydag aelodau, llywodraethwyr ysgolion, rhieni a phobl ifanc.”
Staff Caerdydd yn cael eu ‘hesgeuluso’ gan gonsortiwm JES
Cynhaliodd rhanbarth Caerdydd gyfarfod ar ddechrau tymor yr haf ar gyfer ei haelodau a gyflogwyd yn ganolog gan awdurdod addysg Caerdydd. Cysylltodd nifer ohonynt â’r Undeb yngl^yn â threfniadau staffio arfaethedig dan y Gwasanaeth Addysg ar y Cyd (JES) ar gyfer Canol De Cymru, a fydd yn golygu gwaith ar y cyd rhwng awdurdodau lleol.
Rhoddodd Debbie Scott, swyddog NUT Cymru a chyswllt consortiwm i’r JES, ddiweddariad i’r sefyllfa. Daeth i’ramlwg o drafodaethau gydag aelodau bod lles staff yn cael ei esgeuluso. Gan groesawu cefnogaeth yr NUT, dywedodd un aelod: “Dysgais mwy am yr hyn sy’n digwydd yma nag o un man arall.”
Cynhaliwyd cyfarfod pellach ym Mehefin.
Mae swyddogion yr NUT yn trosglwyddo pryderon aelodau i arweinwyr y consortiwm ac yn cynnig cyngor ar amgylchiadau unigol.
Tu fewn… Dweud na wrth hiliaeth Peidiwch oedi – croeswch y trothwy Yr NUT yn TUC Cymru
Previous Page