Clwb Golff Tel: 01758 712622
Rhifyn 7 Mai/Mehefin 2012
Abersoch CYLCHLYTHYR
Golf Club
EDRYCH I’R DYFODOL
Croeso i rifyn diweddaraf cylchlythyr y clwb. Mi gawsom dywydd gwych ar ddechrau’r flwyddyn ond fe drodd mis Ebrill yn hynod wlyb a gwyntog, ond mae’n debyg fod hynny’n dda i’r cwrs! Daeth nifer helaeth i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac fe etholwyd swyddogion newydd ac aelodau i’r pwyllgorau. Yn y cyfarfod hwnnw cafwyd pleidlais i benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r Cynllun Llety Dormi a’r canlyniad oedd fod yna fwyafrif clir yn erbyn.
Bu datblygiadau eraill, gyda waliau newydd yn cael eu codi o amgylch cefn y clwb i guddio’r nifer cynyddol o finiau o bob lliw a llun sydd yn rhaid eu defnyddio. Wrth gwrs mae’r byncar cuddiedig oedd rhyw hanner canllath yn fyr ar y dde i’r 7fed lawnt wedi ei lenwi ond mi fydd byncar arall yn cael ei gloddio rhyw ganllath yn fyr o’r lawnt ar yr un llinell. Teimlwyd fod y byncar gwreiddiol yn gosb rhy llym gan na ellid ei weld wrth ergydio ymhellach yn ôl. Mi fydd y byncar newydd yn swatio yn y llethrau ac yn dal o fewn cyrraedd ond bydd modd ei weld o gyfeiriad y bwthyn.
Mae Capten y Dynion yn bwriadu casglu ynghyd is-bwyllgor, yn bennaf o gyn-gapteiniaid, y dynion a’r merched, er mwyn ystyried datblygiad, cyllid a rheolaeth y clwb yn y tymor hir. Os gwelwch yn dda rhowch wybod i Paul os oes gennych ddiddordeb mewn helpu. Mae’r wefan newydd wrthi’n cael ei rhoi at ei gilydd a’r bwriad ydi ei lawnsio yn ystod oes y cylchlythyr cyfredol. Rydym hefyd yn ystyried ail-ddatblygu ystafelloedd loceri y dynion a’r merched yn y prif adeilad.
Mae hyn i gyd yn cael ei wneud yng nghyd-destun y sefyllfa economaidd anodd, a dydi’r clwb ddim yn osgoi’r trafferthion hynny. Bu gostyngiad bychan yn nifer yr aelodau eleni, ond tydi’r gostyngiad ddim yn agos at y cyfartaledd cenedlaethol i glybiau golff, ac rydan ni’n ceisio sicrhau fod lefel yr incwm gan ymwelwyr a chymdeithasau, o leiaf yn cael ei gynnal, a gobeithio yn cael ei gynyddu. Ochr yn ochr â hyn mae rhaid rheoli’r gwariant yn llym, yn enwedig pan fo sefyllfaoedd annisgwyl yn codi megis yr angen am foeler newydd i’r clwb!
www.abersochgolf.co.uk
Mwynhewch eich golff a chofiwch, er fod gennym bolisi eitha hyblyg tuag at wisg yn y clwb, fod yna reolau ar y cwrs.
RYDAN NI’N ENWOG!
Yn gymharol felly! Mae bwriad i gynnwys erthygl fer am Glwb Golff Abersoch yn rhifyn Gorffennaf Golf Monthly (yn y siopau ddechrau Mehefin).
How to use this
newsletter Where there are blue characters this signifies that if you click on that word then you can automatically email that point of contact and where there are web addresses again you can click straight through to that website.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4