CYLCHLYTHYR Clwb GolffAbersochGolf Club
Oddi Wrth Paul Brown Capten y Dynion 2012/13
Un o’r gofynion pwysicaf ydi ystyried y strwythur rheoli presennol a’r ddibyniaeth ar nifer bychan o aelodau sy’n gwirfoddoli i ysgwyddo’r cyfrifoldeb o redeg y clwb diguro hwn. Ond ddylai’r gwaith yna ddim digwydd yn ddi-gyswllt, a dyna pam rwy’n gofyn i’r cyn-gapteiiaid, dynion a merched, i ddod ymlaen i ffurfio is-bwyllgor bychan i ystyried cynllun pum mlynedd ar gyfer dyfodol y clwb.
“
Beth bynnag a benderfynwn ar gyfer dyfodol y clwb, mae un peth yn gwbwl amlwg sef bod rhaid i ni ddiogelu ein henw da fel “Y Clwb Cyfeillgar”. Mi fydd yna sialensau yn ein hwynebu, yn arbennig o ystyried yr hinsawdd economaidd fel ag y mae, ond gyda chefnogaeth y Pwyllgor Gwaith a’r aelodau rwy’n edrych ymlaen at flwyddyn ardderchog.
Oddi Wrth Pam Nightingale Capten y Merched 2012/13
“ PWYLLGOR NEWYDD
Pwyllgor Cyllid – Cadeirydd - Chris Haywood Pwyllgor y Lawntiau – Cadeirydd- Mike Lewis Pwyllgor Cystadleuthau – Cadeirydd – Dai Davies Pwyllgor y Tŷ – Cadeirydd – Julie Haywood Rheolau/Graddnod – Dave Smith Marchnata/ Personél - Dai Davies
” PEIDIWCH Â MWYDRO
WRTH DRYDAR Mae’r clwb wedi cyflwyno polisi newydd parthed gwefannau cymdeithasol ar gyfer staff ac aelodau. Gellir cael copi ar y wefan neu yn y swyddfa.
2
Hoffwn ddiolch i’r aelodau am fy nerbyn yn Gapten adran y Dynion am y flwyddyn 2012/13. Rwyf yn ei hystyried yn anrhydedd fawr, yn arbennig yn ystod blwyddyn y Gemau Olympaidd, Cwpan Ryder, Blwyddyn y Jiwbili, fy
mhenblwydd yn 65 ac wrth gwrs, canrif ers suddo’r Titanic!
ATAL Y WASG: Capten Brown yn cael TWLL
MEWN UN ar y 6ed ar Fai yr 2ail. – rhagor o fanylion i ddilyn!!
Rwy’n falch iawn o gael yr anrhydedd o fod yn Gapten y Merched yng Nghlwb Golff Abersoch ac yn ddiolchgar i Gyn Gapteiniaid y Merched am eu hymddiriedaeth yn fy enwebu. Gwnaf bopeth o fewn fy ngallu i gynnal traddodiadau gwych y clwb. Rwy’n ddiolchgar i’r aelodau am eu hanogaeth, cyfeillgarwch a’u cefnogaeth yn ystod fy mlwyddyn fel Is-Gapten y Merched.
Roeddwn yn aelod o Glwb Golff Abersoch, nôl yn y dyddiau pan oedd yn gwrs naw twll, tra hefyd yn aelod o Glwb Golff Bolton am dros hanner can mlynedd. Rwy’n gobeithio manteisio ar fy mhrofiad yn y gorffennol i’m galluogi i fwynhau fy mlwyddyn fel Capten y Merched ac rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad o fudd i’r clwb a’i aelodau.
Mae adran y merched wedi mynd o nerth i nerth ac mae wedi cynyddu’r nifer o ferched sy’n trio cystadleuthau. Mae’n adran gyfeillgar iawn ac rwy’n gobeithio hybu hynny a chynnal brwdfrydedd yr aelodau a sicrhau fod y clwb yn ffynnu.
Ac mi rydach chi’n meddwl eich bod chi’n adnabod y cwrs!
Gwnewch yn siwr eich bod yn ei adnabod, gan nad oes esgus bellach am fod Llyfrynnau Cynllun y Cwrs ar gael yn siop y Pro. Nid ail-argraffiad mohono, yn hytrach mae’r cwrs wedi ei fesur a’i fapio yn broffesiynnol ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Pris £3.00
”
Pic: Dewi Wyn of Pwllheli
Pic: Dewi Wyn of Pwllheli
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4