3 Athrawon Cymru
Buddugoliaeth tribiwnlys i diwtor cartref sy’n aelod o’r NUT
Enillodd yr NUT achos mewn tribiwnlys cyflogaeth ar ran Jane Watts, tiwtor cartref i Gyngor Sir y Fflint, a chafodd ei diswyddo’n annheg ar ddiwedd Mawrth 2011. Nododd y cyngor mai ‘ymddeoliad’ oedd y rheswm dros ddod a’i chyflogaeth i ben.
Bu Jane yn diwtor cartref i Gyngor Sir y Fflint am dros 15 mlynedd, ac er hyn, nid oedd y cyngor yn cytuno bod ganddi gytundeb cyflogaeth. Dywedodd y cyngor iddi hi weithio gyda nifer o ddisgyblion dros gyfnod o amser, ac nid oedd modd ystyried hyn yn gytundeb.
Cynrychiolwyd Jane yn y tribiwnlys gan Sarah Weaver, Cyfreithiwr NUT Cymru. Dadleuodd Sarah fod Jane bob amser yn derbyn y gwaith a roddwyd iddi gan Sir y Fflint, a’i bod, fel tiwtor cartref, wedi derbyn cyfres o gytundebau unigol oedd yn cyfateb i wasanaeth parhaol at ddibenion cyflogaeth.
Dadleuodd yr NUT hefyd nad oedd Cyngor Sir y Fflint wedi dilyn unrhyw weithdrefn pan yn ei diswyddo.
Cytunodd y tribiwnlys, gan gytuno bod Mrs Watts yn gyflogedig gan y cyngor ac iddi gael ei diswyddo’n annheg.
Wrth ymateb i’w llwyddiant, dywedodd Jane: “Roeddwn yn siomedig, wedi 15 mlynedd o gyflogaeth iddynt fy niswyddo’n sydyn heb ystyried fy nghymwysterau a’r gwaith a wnes i. Roedd y broses tribiwnlys yn straen ond rwy’n falch i mi ddyfalbarhau. Derbyniais gefnogaeth, hyd yn oed, gan rai rhieni plant y dysgais i.
Ychwanegodd Jane: “Dwi’n gobeithio y bydd tiwtoriaid cartref yn cael eu trin fel cyflogedigion eraill sy’n gwneud yr un gwaith, ac nid fel y cefais i fy nhrin.”
Melinwyr grawn yn rhydd!
Gwelir llun o Louise Cronin, aelod yr NUT o ysgol Eglwys yng Nghymru Glasbury gyda chydweithiwr - a’u model gweithiol o felin flawd.
Ewch i www.talgarthmill.com am fanylion, neu ffoniwch 01874 711352.
Previous Page