2 Athrawon Cymru
Llongyfarchiadau…
…i Beth Davies a gafodd ei hethol yn Is Gadeirydd Hy ^n yr Undeb. Dywedodd Beth, sy’n aelod gweithredol ar ran yr NUT: “Rydym yn wynebu nifer o heriau i’n amodau gwaith a’n statws proffesiynol. Fe fyddaf yn ymgyrchu i ddiogelu ein hawliau a chynrychioli pob aelod yn y frwydr i adennill parch i athrawon a chymryd rheolaeth dros y proffesiwn yn ôl.”
A chroeso…
… i Sarah Weaver, cyfreithiwr newydd NUT Cymru. Yn wreiddiol o Glyn-Nedd, aeth Sarah i Ysgol Gyfun Ystalyfera ac mae’n medru’r Gymraeg yn rhugl. Astudiodd Y Gyfraith yn Abertawe a mynychodd Brifysgol Caerdydd ble bu’n hyfforddi fel Bargyfreithiwr. Arbenigodd mewn cyfraith cyflogaeth a chymhwysodd fel cyfreithiwr yn 2006. Aeth ymlaen i weithio gyda chyfreithwyr Thompsons yng Nghaerdydd.
Dywedodd Sarah: “Rwyf wrth fy modd fy mod yn gweithio i NUT Cymru ac yn cefnogi athrawon ym mhob agwedd o’u gwaith. Mae athrawon yn wynebu amserodd caled ac rwyf yn falch fy mod yn rhan o undeb sydd ar flaen y gad yn diogelu hawliau eu haelodau.”
Yr NUT yn ennill oediad ar fandio
Mae aelodau’r NUT yng Nghymru yn dathlu wedi i’w hymgyrch yn erbyn bandio ysgolion cynradd arwain at Weinidog Addysg Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi oedi o ddwy flynedd ar gyfer y system. Ni fydd bandio ysgolion cynradd, a oedd yn wreiddioli gychwyn eleni, yn cychwyn nes 2014. Tra y bydd yr ymgyrch yn erbyn y system yn parhau, fe fydd yr oedi, a ddaeth yn rhannol o ganlyniad i’r achos a godwyd gan aelodau NUT Cymru, yn caniatáu trafodaethau pellach ynghylch gwendidau’r system. Fe fydd athrawon yr NUT ar draws Cymru sydd wedi gweithio’n galed i dynnu sylw at y problemau y gallai bandio ysgolion cynradd eu hachosi, yn croesawu’r penderfyniad.
Mewn ymateb i’r penderfyniad, dywedodd Ysgrifennydd NUT Cymru, David Evans: “Dyma newyddion arbennig i athrawon, sydd wedi bod yn cysylltu â ni gan fynegi eu pryderon ynghylch cyflwyno system fandio cynradd. Yn amlwg, fe fu trafferthion mawr wrth geisio dod o hyd i system a fyddai’n gweithio yn y sector cynradd a dylid canmol y Gweinidog am weithredu fel hyn.
“Rydym yn parhau i wrthwynebu unrhyw fath o fandio ysgolion, ond os mai’r bwriad yw cyflwyno system o’r fath, rhoddwyd cyfle gan y Gweinidog i buddgyfranogwyr i weithio ar y cyd wrth fynd i’r afael â’r problemau.”
Previous Page