This book includes a plain text version that is designed for high accessibility. To use this version please follow this link.

3 Athrawon Cymru









Buddugoliaeth tribiwnlys i diwtor cartref sy’n aelod o’r NUT


Enillodd yr NUT achos mewn tribiwnlys cyflogaeth ar ran Jane Watts, tiwtor cartref i Gyngor Sir y Fflint, a chafodd ei diswyddo’n annheg ar ddiwedd Mawrth 2011. Nododd y cyngor mai ‘ymddeoliad’ oedd y rheswm dros ddod a’i chyflogaeth i ben.


Bu Jane yn diwtor cartref i Gyngor Sir y Fflint am dros 15 mlynedd, ac er hyn, nid oedd y cyngor yn cytuno bod ganddi gytundeb cyflogaeth. Dywedodd y cyngor iddi hi weithio gyda nifer o ddisgyblion dros gyfnod o amser, ac nid oedd modd ystyried hyn yn gytundeb.


Cynrychiolwyd Jane yn y tribiwnlys gan Sarah Weaver, Cyfreithiwr NUT Cymru. Dadleuodd Sarah fod Jane bob amser yn derbyn y gwaith a roddwyd iddi gan Sir y Fflint, a’i bod, fel tiwtor cartref, wedi derbyn cyfres o gytundebau unigol oedd yn cyfateb i wasanaeth parhaol at ddibenion cyflogaeth.


Dadleuodd yr NUT hefyd nad oedd Cyngor Sir y Fflint wedi dilyn unrhyw weithdrefn pan yn ei diswyddo.


Cytunodd y tribiwnlys, gan gytuno bod Mrs Watts yn gyflogedig gan y cyngor ac iddi gael ei diswyddo’n annheg.


Wrth ymateb i’w llwyddiant, dywedodd Jane: “Roeddwn yn siomedig, wedi 15 mlynedd o gyflogaeth iddynt fy niswyddo’n sydyn heb ystyried fy nghymwysterau a’r gwaith a wnes i. Roedd y broses tribiwnlys yn straen ond rwy’n falch i mi ddyfalbarhau. Derbyniais gefnogaeth, hyd yn oed, gan rai rhieni plant y dysgais i.


Ychwanegodd Jane: “Dwi’n gobeithio y bydd tiwtoriaid cartref yn cael eu trin fel cyflogedigion eraill sy’n gwneud yr un gwaith, ac nid fel y cefais i fy nhrin.”


 


Melinwyr grawn yn rhydd!



Gwelir llun o Louise Cronin, aelod yr NUT o ysgol Eglwys yng Nghymru Glasbury gyda chydweithiwr - a’u model gweithiol o felin flawd.


Cynhaliodd Melin Talgarth, ger Aberhonddu, ei diwrnod hyfforddi cyntaf yn ddiweddar, a ariannwyd gan Gyrfa Cymru. Dysgodd athrawon sut mae’r broses o greu ein bara beunyddiolyn pontio’r cwricwlwm. Aethant am daith o amgylch y felin cyn creu model a chorddi menyn.


Ewch i www.talgarthmill.com am fanylion, neu ffoniwch 01874 711352.

Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4