4 Athrawon Cymru
Trefnu Cymru
Mynychodd ysgrifenyddion rhanbarthol ac aelodaeth o Gymru gyfan yr ail gynhadledd trefnu ac aelodaeth yng Ngwesty’r Park Thistle, Caerdydd, ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Trafodwyd nifer o faterion, gyda’r prif ffocws ar yr ymgyrch bensiynau.
Clywodd y cynrychiolwyr am amrywiol esiamplau o lwyddiannau trefnu a rannwyd cyngor am sut i drefnu gweithgareddau er mwyn denu rhagor o aelodau, yn enwedig athrawon ifainc, i weithredu dros yr undeb.
Cynhelir cynhadledd 2012 yng Nghaerdydd ar y 9fed a’r 10fed o Dachwedd.
Ond peidiwch ddisgwyl tan hynny i gymryd rhan! Dewch o hyd i wybodaeth am sut i weithredu yn eich rhanbarth trwy:
• fynychu eich cyfarfod Rhanbarthol nesaf
• ymweld â
www.teachers.org.uk/getinvolved neu
• dewch yn gynrychiolydd ysgol (gwelwch y bocs ar y dde).
“ Roedd yn wych – y gynhadledd i mi fwynhau orau ers blynyddoedd.” June Havard, ysgrifennydd rhanbarthol Caerffili
Byddwch yn gynrychiolydd ysgol
Mae’r NUT yn ymfalchïo bod ganddi aelodau ym mron pob ysgol yng Nghymru. Yn y rhan fwyaf o’r ysgolion mae athro sy’n gynrychiolydd ysgol, yn recriwtio aelodau newydd, yn rhoi cyngor, hyrwyddo polisïau ac ymgyrchoedd yr NUT ac yn cystylltu â’r NUT lleol.
Ond rydym yn parhau i recriwtio cynrychiolwyr. Dywedodd Ysgrifennydd NUT Cymru David Evans: “Uwcholeuodd yr ymgyrch bensiynau pa mor bwysig yw rôl cynrychiolwyr ysgolion o fewn yr undeb a, mewn cyfnod fel hwn, pa mor bwysig yw hi i gael cynrychiolydd ysgol ym mhob ysgol yng Nghymru.”
Mae NUT Cymru yn darparu pob cefnogaeth i’r rhai hynny sy’n gynrychiolwyr eisoes er mwyn iddyn nhw fod yn gyfforddus yn eu rolau newydd, gan gynnwys hyfforddiant am ddim.
Trefnwyd cwrs Lefel 1 a Lefel 2 i gynrychiolwyr ar Hydref 12, 2012 yn yr Hoiday Inn, Casnewydd.
Fe fydd rhai sesiynau hyfforddi awr gyda’r hwyr yn ystod 2012, cadwch lygad am y dyddiadau hyn a’u lleoliadau ym Mhowys, Sir Fynwy, Torfaen a Blaenau Gwent.
Os oes diddordeb gennych fod yn gynrychiolydd ysgol a mynychu un o’r cyrsiau hyn, cysylltwch â Lisa Tavener yn swyddfa NUT Cymru trwy ffonio 029 2049 1818.
Am fanylion ar sut i ddod yn gynrychiolydd, neu er mwyn bod yn rhan o’r NUT mewn dulliau eraill, ewch i
www.teachers.org.uk/getinvolved.
Cymorth Cadarn…
Fel yr undeb athrawon mwyaf, gallwn gyn- nig y gwasanaeth gorau i’n haelodau. Mae ein tîm proffesiynol yn barod i gynnig eu harbenigedd i’n rhwydwaith o gynrychiolwyr mewn ysgolion a cholegau ac ysgrifeny- ddion cymdeithasau a rhanbarthau. Os oes gennych broblem yn y gwaith neu yr hof- fech wybod mwy yngl^ yn â gwasanaethau i aelodau’r NUT, cysylltwch â:
l eich cynrychiolydd ysgol neu goleg
l ysgrifennydd eich cymdeithas neu ranbarth
l swyddfa NUT Cymru.
NUT Cymru Ty Sinnott, Llys Neifion, Ffordd Vanguard, Caerdydd CF24 5PJ Ffôn: 029 2049 1818 Ffacs: 029 2049 2491 Ebost:
cymru.wales@nut.org.uk
Ysgrifennydd Cymru: David Evans
Swyddogion Cymru: Gareth Lloyd, Debbie Scott
Swyddog Trefnu a Chyfathrebu Cymru: Stuart Williams
Cyfreithiwr Cymru: Sarah Weaver
Swyddog Polisi Cymru: Owen Hathway
Aelodau ‘r Pwyllgor Gwaith: Angela Davies, Beth Davies, Neil Foden
Prif Swyddfa’r NUT National Union of Teachers, Hamilton House, Mabledon Place, London WC1H 9BD
Ffôn: 020 7388 6191
Ffacs: 020 7387 8458
Gwefan yr NUT:
www.teachers.org.uk
Llywydd: Nina Franklin
Ysgrifennydd Cyffredinol: Christine Blower
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4