This book includes a plain text version that is designed for high accessibility. To use this version please follow this link.
Eich sioe bensiynau


Teithiodd sioe bensiynau NUT Cymru o gwmpas Cymru ym mis Mawrth. Daeth nifer o aelodau i ymweld â ni gan fynegi eu pryderon am dalu cyfraniadau uwch, fel y cynigwyd gan Lywodraeth San Steffan, bydd yn golygu eu bod yn talu mwy, derbyn llai, a gweithio’n hirach.


Roedd y Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Kevin Courntey yn bresennol yn y sioe yng Nghwmbrân a Llandrindod. Roedd yn annog aelodau i ddefnyddio gwefan yr NUTwww.nut.org.uk/pensions er mwyn cyfrifo faint y gallent golli.


Pleidleisiodd gynrychiolwyr yng Nghynhadledd blynyddol yr NUT yn Harrogate dros bleidleisio ar gyfer gweithredu trwy streic yn erbyn y newidiadau arfaethedig, gyda dyddiad cyntaf gweithredu yn ystod tymor yr haf.


• Am ragor o wybodaeth darllenwch dudalennau 4, 12 a 13 o gylchgrawn The Teacher.






Ieuenctid Heddiw


Cynhaliwyd gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop ar hen safle gwaith tin ger Llangyfelach, Abertawe eleni.


Roedd gan yr NUT bresenoldeb amlwg, gyda’n stondin gwybodaeth yno trwy’r wythnos. Roedden ni’n falch o groesawi plant o Ysgol San Tomos, wedi i’n swyddog lleyg Glyn Tiltman drefnu arddangos gwaith celf ei ddisgyblion ar y stondin.


Dywedodd ysgrifennydd NUT Cymru, David Evans: “Cynigodd Eisteddfod yr Urdd y cyfle i ni eleni i gymysgu gydag aelodau, disgyblion a’u teuluoedd yn ogystal â chynrychiolwyr o fudiadau eraill.


“Rydym yn falch yn flynyddol i gymryd y cyfle i drafod materion addysgiadol gydag aelodau’r NUT, llywodraethwyr ysgolion, rhieni a phobl ifanc.”


 


Y cyrsiau cynrychiolwyr ysgolion nesaf


• 8/11/2011 – Lefel 1 Rhan 2, Holiday Inn, Coldra, Casnewydd


• 10/11/2011 – Lefel 1 Rhan 2, Gwesty Llety Parc, Aberystwyth


Os hoffech fod yn gynrychiolydd ysgol a mynychu un o’r cyrsiau hyn, cysylltwch â Lisa Tavener yn NUT Cymru trwy ffonio 029 2049 1818.


Dewch o hyd i ragor o wybodaeth trwy ymweld â. www.teachers.org.uk/getinvolved.







NUT Cymru yn mynd ar-lein


Mae trafodaethau eisoes yn digwydd er mwyn datblygu ardal Gymraeg ar wefan yr NUT. Gobeithir y byddwn yn lansio’r deunydd cyntaf yn hwyrach yn ystod yr haf.









Cymorth Cadarn…


Fel yr undeb athrawon mwyaf, gallwn gynnig y gwasanaeth gorau i’n haelodau. Mae ein tîm proffesiynol yn barod i gynnig eu harbenigedd i’n rhwydwaith o gynrychiolwyr mewn ysgolion a cholegau ac ysgrifenyddion cymdeithasau a rhanbarthau. Os oes gennych broblem yn y gwaith neu yr hoffech wybod mwy ynglyn â gwasanaethau i aelodau’r NUT, cysylltwch â:


l eich cynrychiolydd ysgol neu goleg


l ysgrifennydd eich cymdeithas neu ranbarth


l swyddfa NUT Cymru.


NUT Cymru Ty Sinnott, Llys Neifion Ffordd Vanguard Caerdydd CF24 5PJ


Ffôn: 029 2049 1818


Ffacs: 029 2049 2491


Ebost: cymru.wales@nut.org.uk


Ysgrifennydd Cymru: David Evans


Swyddogion Cymru: Gareth Lloyd, Debbie Scott


Swyddog Trefnu a Chyfathrebu Cymru: Stuart Williams


Cyfreithiwr Cymru: Sarah Morgan Aelodau ‘r Pwyllgor Gwaith: Angela Davies, Beth Davies, Neil Foden


Prif Swyddfa’r NUT  National Union of Teachers, Hamilton House, Mabledon Place, London WC1H 9BD


Ffôn 020 7388 6191


Ffacs: 020 7387 8458


Gwefan yr NUT: www.teachers.org.uk


Llywydd: Gill Goodswen


Ysgrifennydd Cyffredinol: Christine Blower

Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4