NUT Cymru yn y cynadleddau pleidiol
Mynychodd swyddogion yr NUT pob un o gynadleddau pleidiau gwleidyddol Cymru yn y Gwanwyn er mwyn hybu ymgyrchoedd yr NUT megis Chwarae Teg i Blant yn Nghymru ac ymgyrch bensiynau ehangach yr NUT.
Tynnwyd sylw gwleidyddion allweddol hefyd gan y swyddogion at y dewisiadau eraill i raglen toriadau y Llywodraeth Glymblaid.
Siaradwyd gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar gyfer yr wrthblaid Peter Hain ac aelodau Cynulliad Cymru, y Prif weinidog Carwyn Jones a’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews. Gwelir swyddog Cymru Gareth Lloyd yn y llun gydag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams.
NUT Cymru yn gorymdeithio dros ddewis arall
Yn Llundain ac yng Nghaerdydd
Daeth aelodau NUT Cymru ynghyd ar ddydd Sadwrn 26ain o Fawrth er mwyn protestio yn erbyn toriadau ffyrnig y Llywodraeth i wasanaethau cyhoeddus. Arweiniodd Ysgrifennydd Cymru David Evans, aelodau gweithredol Beth Davies ac Angela Davies a staff NUT Cymru aelodau NUT Cymru wrth iddynt orymdeithio tuag at Barc Hyde yn Llundain.
Roedd presenoldeb gref gan NUT Cymru ym Mhrotest y TUC yn y Parc yng Nghaerdydd ar y 5ed o Fawrth gyda chynrychiolwyr o Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin, Castell Nedd a Phort Talbot a Sir Benfro.
Roedd yr orymdaith yn cyd fynd gyda chynadleddau y Ceidwadwyr Cymraeg a’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymraeg yn y brifddinas (gweler ar y chwith).
Countdown – cerdyn i arbed i chi
Dewch o hyd i wybodaeth ar sut i arbed arian trwy ddefnyddio eich cerdyn Countdown trwy ymweld â
www.countdowncard.com.
Fel aelod o’r NUT rydych yn ddeiliad o’r cerdyn Countdown eisoes, felly gallwch gymryd mantais o’r rhwydwaith o gynigion lleol a chynigion ar y stryd fawr – o siopau a gwasanaethau i wyliau, diwrnodau hwyl, cadw’n heini a llawer iawn mwy.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4