Cefnogi athrawon, cefnogi addysg
Teacher Support Cymru yn egluro’r hyn y gall ei gynnig i chi.
Datblygodd Teacher Support Cymru o Gronfa Llesiannol Athrawon yr NUT ac mae’n cynnig gwasanaeth ddwyieithog i athrawon yng Nghymru, o gefnogaeth ymarferol ac emosiynol trwy hyfforddiant e bost un-i- un i gwnsela cyfrinachol, wedi’i ffocysu ar ddatrys problemau dros y ffôn.
Cynigir y cymorth gan gwnselwyr ac anogwyr profiadol a chanddynt achrediad proffesiynol sydd hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth o feysydd addysg a gwleidyddiaeth Cymru. Cynigir amryw o wasanaethau gan yr elusen gan gynnwys darparu newyddion, arweinyddiaeth a thaflenni gwybodaeth ar destunau helaeth gan gynnwys reoli straen, bwlian yn y gweithle a datblygiad personol.
Cyflawnwyd astudiaeth ar y cyd rhwng NUT Cymru a Teacher Support Cymru i’r straen a wynebir gan athrawon. Fe fydd yr ymchwil yn allweddol wrth i’r elusen ddatblygu ei gwasanaethau.
Mae Teacher Support Cymru hefyd ar-lein, yn rhoi mynediad dwyieithog i athrawon i hyfforddiant trwy e bost a thaflenni gwybodaeth er mwyn eu lawrlwytho.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.teacher
supportcymru.info neu ffoniwch 08000 855 088.
Byddwch yn ran o Batagonia!
Oes gennych chi ddiddordeb o fod yn ran o Batagonia gyfoes? O 1865 ymlaen, allfudodd sawl teulu o Gymru yno. Erbyn yr 1970au er hyn, dim ond rhai o’r henoed oedd yn siarad Cymraeg.
Yna yn 1997 sefydlodd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Y Cyngor Prydeinig a Chymdeithas Cymru Ariannin, cynllun a elwid Cynllun Yr Iaith ym Mhatagonia. Erbyn heddiw dysgir cyfanswm o 250 o oriau o Gymraeg mewn ysgolion ym Mhatagonia yn wythnosol i bob ystod oedran gan gynnwys oedolion. A dyma ble gallwch chi fod yn rhan!
Yn flynyddol caiff dau neu dri o athrawon profiadol eu recriwtio yng Nghymru i ymuno â’r cynllun am ddeng mis, o ddiwedd Chwefror tan ganol Rhagfyr – blwyddyn academaidd yr Ariannin.
Telir £750 y mis gan y cynllun (cyfwerth â chyflog athro/awes leol) yn ogystal a hediadau, llety ac yswiriant, a chynhwysir 30 diwrnod o wyliau (pro rata) yn y cytundeb.
Os ydych chi’n meddwl eich bod yn barod am her newydd ac eich bod yn medru perswadio eich pennaeth i’ch rhyddhau am ddeg mis (tua’r un cyfnod a chyfnod mamolaeth) yna cysylltwch â Lowri Jones yn y Cyngor Prydeinig Cymru (
Lowri.jones@
britishcouncil.org) a fydd yn medru cynnig rhagor o fanylion a ffurflen gais.
Maent yn dangos y cerdyn coch i hiliaeth
Enillwyr cystadleuaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru ar gyfer 2011 oedd Ysgol Gynradd Hafod y Wern, Wrecsam, yr enillwyr cyntaf o Ogledd Cymru. Cynhyrchwyd fideo yn y categori cyfryngau ganddynt, ac enillwyd gliniadur ar gyfer yr ysgol a roddwyd gan yr NUT fel rhan o’i chefnogaeth o waith gwrth-hiliol.
Yn y llun ar y dde gwelir disgyblion o Ysgol Uwchradd Blaengwawr, Rhondda Cynon Taf, enillwyr categori cynllunio poster, gyda sêr chwaraeon Ali Mackenzie, Adam Matthews ac Enzo Maccarinelli a’r dyn busnes Mike Theodoulou (canol).
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4