4
Sut i’w wneud?
Mynychodd ysgrifenyddion rhanbarth ac aelodaeth ledled Cymru gynhadledd trefnu ac aelodaeth cyntaf yr NUT yn Llandrindod ym mis Tachwedd. Ystyriwyd ffyrdd i sicrhau cynrychiolydd ym mhob ysgol, rhannwyd syniadau ar drefnu digwyddiadau a helpu aelodau i fod yn weithredol yn yr undeb.
Am fwy o fanylion ar sut y gallwch chwarae rhan yn eich rhanbarth NUT, ewch i’ch cyfarfod rhanbarthol nesaf. Cysylltwch â Lisa Taverner yn NUT Cymru ar 029 2049 1818, neu ewch i
www.teachers.org.uk/getinvolved.
Hyfforddiant min nos
Yn ystod y flwyddyn diwethaf, llwyddodd NUT Cymru i gynyddu’r nifer o aelodau sy’n weithredol dros yr undeb, sydd hefyd eisiau bod yn gynrychiolwyr ysgol. Llwyddodd y sesiynau hyfforddi min nos i sicrhau bod cynrychiolwyr newydd a phrofiadol dros Gymru yn mireinio eu sgiliau.
Mae bwriad trefnu rhagor ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont, Conwy, Sir Fynwy a Thorfaen.
Os ydych yn gynrychiolydd ysgol, neu â diddordeb bod yn gynrychiolydd ac yr hoffech dderbyn hyfforddiant, cysylltwch â Lisa Taverner ar 029 2049 1818 neu e bostiwch
cymru.wales@nut.org.uk.
Myfyrwyr yn dangos y cerdyn coch i hiliaeth
Cynhaliwyd ail gynhadledd Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth i athrawon y dyfodol yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd ym mis Ionawr. Noddwyd y digwyddiad gan yr NUT a bwriad y gynhadledd oedd addysgu myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf i ddelio gyda hiliaeth ac anoddefiad crefyddol mewn ysgolion, a sut i addysgu anghyfiawnder hiliaeth mewn gwersi addysg bersonol a chymdeithasol.
Gwyliodd y myfyrwyr ddrama rhyngweithiol ar hiliaeth a berfformiwyd gan Theatr Fforwm Cymru, dilynwyd hyn gan weithdai.
Trefnwyd cynadleddau pellach ym Mhrifysgol Metropolitan Abertawe a Phrifysgol Caerllion, Casnewydd. Am ragor o fanylion, cysylltwch â NUT Cymru ar 029 2049 1818.
Athrawon ifanc yn rhannu syniadau
Mynychodd athrawon ifanc o Ogledd Cymru i gyd, gynhadledd gyntaf NUT Gogledd Cymru i athrawon ifanc, yn Llandudno ym mis Ionawr.
Un o’r pynciau llosg oedd peryglon posib rhwydweithio cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar Facebook. Trafodwyd gôd ymddygiad newydd Cyngor Cyffredinol Athrawon Cymru a sut i ddenu athrawon ifanc i gyfrannu’n weithredol i bolisïau ac ymgyrchoedd yr NUT.
Cynhelir cynhadledd athrawon ifanc yn Ne Cymru yn Abertawe ym mis Hydref. Er mwyn cadw lle, cysylltwch â Lisa Taverner yn NUT Cymru ar 029 2049 1818.
Cymorth Cadarn…
Fel yr undeb athrawon mwyaf, gallwn gynnig y gwasanaeth gorau i’n haelodau. Mae ein tîm proffesiynol yn barod i gynnig eu harbenigedd i’n rhwydwaith o gynrychiolwyr mewn ysgolion a cholegau ac ysgrifenyddion cymdeithasau a rhanbarthau. Os oes gennych broblem yn y gwaith neu yr hoffech wybod mwy yngl^ yn â gwasanaethau i aelodau’r NUT, cysylltwch â:
• eich cynrychiolydd ysgol neu goleg
• ysgrifennydd eich cymdeithas neu ranbarth
• swyddfa NUT Cymru.
NUT Cymru Ty Sinnott, Llys Neifion Ffordd Vanguard Caerdydd CF24 5PJ Ffôn: 029 2049 1818 Ffacs: 029 2049 2491 Ebost:
cymru.wales@nut.org.uk
Ysgrifennydd Cymru: David Evans
Swyddogion Cymru: Gareth Lloyd, Debbie Scott
Swyddog Trefnu a Chyfathrebu Cymru: Stuart Williams
Cyfreithiwr Cymru: Sarah Morgan
Aelodau ‘r Pwyllgor Gwaith: Angela Davies, Beth Davies, Neil Foden
Prif Swyddfa’r NUT National Union of Teachers, Hamilton House, Mabledon Place, London WC1H 9BD
Ffôn 020 7388 6191
Ffacs: 020 7387 8458
Gwefan yr NUT:
www.teachers.org.uk
Llywydd: Gill Goodswen
Ysgrifennydd Cyffredinol: Christine Blower
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4