This book includes a plain text version that is designed for high accessibility. To use this version please follow this link.
3


 


annog y Llywodraeth newydd i gefnogi dewisiadau eraill yn hytrach na thoriadau, cau ysgolion a cholli swyddi.


Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad a’r awdurdodau lleol atal diswyddiadau gorfodol mewn ysgolion, sydd yn aml, yn gweithredu gydag isafswm staff. Dylid sicrhau mai blaenoriaeth yw lleihau maint dosbarthiadau, sicrhau argaeledd adnoddau a buddsoddiad mewn addysg.


4 Cydbwysedd rhwng bywyd cartref a bywyd gwaith i bob athro


Dengys arolwg y Corff Adolygu Athrawon Ysgol bod y rhan fwyaf o athrawon yn gweithio dros 50 awr yr wythnos. Mae’r NUT yn ymgyrchu dros derfynau effeithiol i bwysau gwaith athrawon.


Ym Mehefin 2010 dangosodd arolwg o aelodau’r NUT mai’r mesur mwyaf poblogaidd er mwyn lleihau pwysau gwaith oedd lleihau cynllunio ac asesu beichus, ac yna maint dosbarthiadau gorfodadwy.


5 Dim gweithredu byrbwyll


 Yn ei araith ar yr 2il o Chwefror, amlinellodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, 20 cynnig i’w gweithredu’n syth gan Lywodraeth y Cynulliad ar addysg yng Nghymru. Roedd rhain yn cynnwys adolygiad o hyfforddiant cychwynnol i athrawon, ailgyflwyno profion cenedlaethol i ddisgyblion 7 i 11 mewn llythrennedd a rhifedd, graddoli ysgolion awdurdod lleol a chonsortia yn flynyddol. Cynigwyd gwelliannau i ddarpariaeth rheoli perfformiad.


Cred yr NUT na ystyriwyd y cynigion yn fanwl ac nid oedd ymgynghoriad. Rydym yn gofyn i Lywodraeth y Cynulliad i aros nes bod amser i drafod cynlluniau’r Gweinidog ymhellach gyda phob buddgyfranogwr.


Cynrychiolir nodau ymarferol a realistig i’r gwasanaeth addysg yng Nghymru gan ein maniffesto. Sicrhewch bod eich ymgeiswyr lleol yn ymwybodol ohoni cyn yr etholiad.






Cwestiynu ymddeoliad


 Gwahoddwyd Comisiynydd Pobl H^ yn Cymru i gyfarfod blynyddol aelodau ymddeoledig yng Nghaerdydd yn Nhachwedd.


Eglurodd Ruth Marks ei gwaith gan ddefnyddio astudiaethau achos ar gyfer dysgu gydol oes. Rhoddodd hefyd trosolwg o’i gwaith adolygu ar y modd y caiff hen bobl eu trin mewn ysbytai.


Siaradodd am y pwysigrwydd bod pobl h^ yn yn hawlio’r arian maent yn deilwng iddo mewn cyfnod o doriadau mewn gwariant cyhoeddus.


Am ragor o wybodaeth am y Comisiwn Pobl H^ yn, cysylltwch â 08442 640670, e bostiwch ask@olderpeoplewales.com, neu ewch i www.olderpeoplewales.com.






Cynrychiolydd ym mhob ysgol


Mae’r NUT yn falch bod ganddi gynrychiolydd ym mron pob ysgol yng Nghymru – ac yn y rhan fwyaf o ysgolion mae nifer o athrawon brwdfrydig yn gweithredu fel cynrychiolwyr NUT. Maent yn recriwtio aelodau newydd, trefnu cyfarfodydd, cynghori aelodau, ac yn cynnig cyswllt gyda’r undeb ehangach – gwaith hanfodol.


Derbyniad gynrychiolwyr hyfforddiant arbennig mewn cyrsiau NUT Cymru. Fe fydd tri eleni gan ddechrau ym mis Mehefin – yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Aberystwyth.


Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn gynrychiolydd ysgol a mynychu un o’r cyrsiau, cysylltwch â Lisa Taverner yn NUT Cymru ar 029 2049 1818.


Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ddod yn gynrychiolydd ysgol, neu i fod yn weithredol dros yr NUT mewn amrywiol ffyrdd trwy ymweld â www.teachers.org. uk/getinvolved.






Dechrau da i’ch gyrfa dysgu!


Ymwelodd NUT Cymru â ffeiriau gyrfaoedd ym mhob un o brifysgolion Cymru ym mis Ionawr a siaradwyd gyda nifer o ddarpar athrawon sydd yn chwilio am swyddi yng Nghymru. Gwelir Gareth Lloyd o NUT Cymru yn y llun gyda Samantha Spence a Heather Ashford, y ddwy yn hyfforddi yng Ngoleg y Drindod yng Nghaerfyrddin.


 


Mae aelodaeth yr NUT i fyfyrwyr yn rhad ac am ddim. Y gost am bedwar tymor i ANG yw £1. Ewch i www.teachers.org.uk/ joinus.

Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4