2
Holi ac ateb
Mae etholiadau y Cynulliad yn gyfle i chi holi eich ymgeiswyr lleol ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad, am y materion sydd o bwys i athrawon. Os welwch ymgeiswyr mewn cyfarfod neu yn ystod canfasio drws i ddrws, gofynnwch rhai o’r cwestiynau isod:
• Beth fyddech chi a’ch plaid yn ei wneud er mwyn cau’r bwlch ariannu disgyblion rhwng ysgolion yng Nghymru a Lloegr?
• Ydych chi’n ymrwymedig i gadw’r fframwaith cyflogau cenedlaethol bresennol ar gyfer cyflog ac amodau gwaith i athrawon?
• Ydych chi’n credu y dylid gwarchod pensiynau athrawon?
• A fyddwch chi’n ymgyrchu dros lai o nifer mewn dosbarthiadau ac i sicrhau gwell darpariaeth ar gyfer cyfleon dysgu personol?
• Os cewch chi eich ethol, a wnewch chi weithio i sicrhau iechyd corfforol a meddyliol athrawon?
• A fyddech chi’n edrych i ddiwygio’r system arolygu ysgolion bresennol ac ymgyrchu dros system sy’n cefnogi, yn hytrach na chosbi, cymunedau ysgol?
• Beth yw eich cynlluniau chi a’ch plaid er mwyn cyrraedd y targed o waredu tlodi plant erbyn 2020?
• Pa fesurau ydych chi’n credu sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau cefnogaeth i ysgolion er mwyn taclo diffyg disgyblaeth disgyblion?
• Sut mae eich plaid chi yn bwriadu taclo gwahaniaethu a chydraddoldeb mewn addysg?
• Ydych chi’n credu bod angen isafswm hawl blynyddol i athrawon ar gyfer datblygiad proffesiynol?
• Beth ydych chi’n meddwl dylai’r ysgol ei wneud er mwyn diogelu athrawon rhag honiadau ffug?
Dewch o hyd i syniadau pellach am gwestiynau ym maniffesto NUT Cymru ar addysg. Fe fydd hwn ar wefan yr NUT trwy ymweld â www.
teachers.org.uk/walesmanifesto pan yn barod.
Pleidleisiwch dros addysg
Ar ddydd Iau, 5ed o Fai, fe fydd pobl Cymru yn pleidleisio dros Lywodraeth Cynulliad newydd i Gymru. Mae’r NUT yn annog aelodau i holi eu hymgeiswyr yngl^
yn â’u cynlluniau ar gyfer addysg a gwasanaethau cyhoeddus, ac i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’n maniffesto ni dros addysg yng Nghymru.
Cred yr NUT mewn system addysg cynhwysfawr sy’n atebol yn ddemocrataidd ac yn darparu ysgol leol dda i bob plentyn. Yng Nghymru, rydym mewn peryg o golli’r gwerthoedd hyn tra bod tanariannu yn digwydd yn ein system addysg, bod ysgolion yn cau neu yn cael eu aildrefnu a bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri.
Mae gan blant yng Nghymru yr hawl i gydraddoldeb ariannu fel plant yn Lloegr. Mae ein maniffesto addysg yn galw am:
1 Athrawon cymwys ym mhob ystafell ddosbarth bob amser
Mae NUT yn dadlau dros broffesiwn dysgu graddedigion yn unig. Mae’n rhaid i Lywodraeth y Cynulliad sicrhau bod gan bob dosbarth aelod o staff wedi’u cymhwyso’n llawn ar bob achlysur. Ni ddylid ecsbloetio cynorthwywyr dosbarth, er eu bod yn meddu ar sgiliau arbennig, er mwyn arbed arian.
Dylid talu athrawon yn seiliedig ar eu cymwysterau a’u profiad, gan gadw at raddfeydd cyflog cenedlaethol. Mae’n rhaid i Lywodraeth y Cynulliad ddod i ben âr arfer o ddefnyddio asiantaethau athrawon cyflenwi nad ydynt yn talu’r cyfradd dyddiol arferol. Dylai awdurdodau lleol sicrhau nad ydynt yn defnyddio arian cyhoeddus a benodwyd ar gyfer addysgu ein plant i chwyddo elw cwmnïau preifat ar draul athrawon cymwys.
Dylid sicrhau bod gan pob athro, gan gynnwys athrawon rhan amser, athrawon cyflenwi neu athrawon o asiantaethau, fynediad i hyfforddiant neu ddatblygiad proffesiynol.
2 Ariannu teg i ysgolion yng Nghymru
Mae gan ddisgyblion, rhieni a’r bobl proffesiynol yn ein system addysg, yr hawl i wasanaeth addysg wedi’i ariannu’n llawn. Mae’n hanfodol bod gan ein hysgolion adnoddau digonol er mwyn gwireddu potensial pob unigolyn. Mae ffigyrau gan Lywodraeth y Cynulliad yn dangos bod £604 yn llai y disgybl yng Nghymru i’w gymharu a Lloegr. Rydym eisiau i ysgolion i dderbyn yr holl arian a glustnodwyd i addysg gan y canghellor heb ddargadwad gan y Cynulliad neu awdurdodau lleol.
Mae’n rhaid i Lywodraeth newydd y Cynulliad sicrhau gwireddu addewid y Prif Weinidog i gau’r bwlch ariannu, ac i sefydlu amserlen ar gyfer hyn.
3 Diogelu addysg
Mae bygythiad i wasanaethau cyhoeddus yn wyneb gorchmynion o San Steffan i dorri gwariant, gan gynnwys gwariant ar addysg.
Mae NUT Cymru yn gwrthwynebu’r toriadau ac unrhyw fesurau bydd yn achosi effaith andwyol i addysg ein plant. Rydym yn
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4