3 GWASANAETH
Mae’r Eglwys yn bodoli i fod yn gymydog da i bobl mewn angen ac i herio
anghyfiawnder.
Sut ydym yn canfod beth yw anghenion ein cymuned ac yn ymateb iddynt?
Pwy sydd â rhan mewn gwasanaeth i’r gymuned drwy elusennau cymunedol? A oes
cyfleoedd fwy ohonom fod â rhan? Sut ydym yn rhoi sylw i’r materion moesol sy’n
deillio o waith beunyddiol?
A ydym yn rhannu â’n gilydd ein pryderon am bethau nad ydynt yn ymddangos yn
iawn, neu sy’n achosi helynt yn ein cymuned, neu sy’n ymddangos yn anghyfiawn?
Sut ydym yn herio anghyfiawnder mewn mannau eraill o’r byd?
A ydym yn gwneud y defnydd gorau o’n hadeiladau a’n harian ar gyfer gwasanaeth
i’r gymuned? A ydym yn gwastraffu adnoddau? A ydym yn defnyddio ein hamser a’n
hadnoddau mewn ffyrdd sy’n gyson â’n daliadau a’n gwerthoedd?
Sut mae bywyd ein cymuned, a’n rhan ninnau ynddo, yn cael eu lle yng ngweddïau’r
eglwys?
Beth yw ein cynlluniau a’n hamcanion ar gyfer gwella ein cysylltiad â’r gymuned yn
ystod y flwyddyn nesaf?
4 EFENGYLU
Mae’r Eglwys yn bodoli i wneud rhagor o ddilynwyr i Iesu Grist.
Sut ydym yn datblygu agwedd gyfeillgar tuag at bawb y cyfarfyddwn â hwy?
A oes gennym neges glir? A yw’r geiriau a ddefnyddiwn yn syml ac yn ystyrlon i’r
rhai tu allan i’r Eglwys?
Beth sy’n denu eraill i’r ffyrdd Cristnogol? A oes camau y gellid eu cymryd gennym i
gyflwyno ein hargyhoeddiadau? A allwn wneud hyn gyda Christnogion o enwadau
eraill? Ym mhle y dylai’r canolbwynt fod - mewn adeiladau eglwysig neu yn y
gymuned?
Sut gallwn ddysgu am dystiolaeth effeithiol gan Gristnogion diwylliannau eraill?
Beth allwn ei wneud i wneud ein hadeiladau yn fwy croesawgar?
A ddylem ystyried plannu cynulleidfa newydd yn yr ardal hon?
Beth yw ein cynlluniau a’n hamcanion ar gyfer gwneud rhagor o ddilynwyr Iesu Grist
yn ystod y flwyddyn nesaf?
Mae’r Capeli a welir yn y Cyfeirlyfr hwn yn estyn croeso
cynnes i chwi i addoli gyda hwy.
Os hoffech gael gwybodaeth ychwanegol am gapel arbennig,
cysylltwch â’r Ysgrifennydd neu’r Gweinidog ar y rhif ffôn priodol.
Previous Page