Page 2 of 44
Previous Page     Next Page        Smaller fonts | Larger fonts     Go back to the flash version







Rhagair

Braint i mi ar ran Synod Cymru yw eich croesawu i wefan Gymraeg gyntaf ein henwad.

Daeth Synod Cymru i fodolaeth ar 1 Medi 2007 pan ad-drefnwyd patrwm yr hen Daleithiau.
Ymunodd y ddwy Dalaith Saesneg eu hiaith i sefydlu Synod Wales a ninnau’n ffurfio Synod
Cymru. Cydlynir llawer iawn o’r gwaith sy’n gyffredin i’r ddwy Synod gan Y Cyngor, a ddaeth i
fodolaeth gyda diflaniad Y Gymanfa. Fe welir felly bod strwythurau newydd yn gweithredu, er bod
y rhain, mewn gwirionedd, wedi’u sylfaenu ar y gwaith rhagorol a wnaed gan yr hen Daleithiau.
Mae parch a statws i’r iaith Gymraeg wedi’i sicrhau o dan y drefn newydd yn y Synodau a’r Cyngor
ac fe welir hyn ar waith, er enghraifft, yn Synod Wales, sy’n disgrifio ei hun fel Synod sy’n
gweithredu drwy’r Saesneg yn bennaf ond nid yn gyfan gwbl felly. Mae’r manylion a restrir ar
dudalennau’r gwahanol Gylchdeithiau yn nodi hefyd lle bo cydweithio ar draws ffiniau iaith yn
digwydd yn Synod Cymru.

Dylid nodi mai blwyddyn dechrau’r Achosion a ddangosir gyferbyn ag enwau’r capeli ac nid yw
hynny, o angenrheidrwydd, yn nodi dyddiad adeiladu na safle’r capel presennol. Dibynnwyd ar
waith rhagorol y diweddar Barch. Eric Edwards, wrth baratoi’r agwedd hon o’r safle. Dathlodd nifer
o’r achosion eu deucanmlwyddiant eisoes, ond fe fydd cryn amser yn mynd heibio cyn i’r gweddill
gael y fraint o wneud hynny.

Ein gobaith, wrth ffurfio’r wefan syml hon yw cyhoeddi ein bodolaeth a datgan ein presenoldeb
gweithredol mewn sawl man. O ran ei hoedran, eglwys gymharol ifanc yw’r Eglwys Fethodistaidd
(fel ei chwaer Bresbyteraidd) yng Nghymru, a’n gobaith yw nad ydy’r tân efengylaidd a arweiniodd
i sefydlu cannoedd o gapeli ledled ein gwlad, wedi llwyr farw allan eto.

Rhowch wybod i’ch cyfeillion am y wefan hon trwy ddefnyddio’r cysylltiadau priodol i anfon y
cylchgrawn hwn ymhell ac agos. Dywedwch wrth eich plant, eich wyrion a’ch wyresau, a
pherthnasau eraill am ei bodolaeth. Fe fyddai hyn yn ffordd dda o’u hatgoffa o fodolaeth a chroeso
eu Heglwys, heb efallai ‘bregethu’ yn ormodol iddynt.

Casglwyd y wybodaeth i lunio’r wefan gan Gwyndaf a Hafwen Roberts, a gellir anfon cywiriadau
neu sylwadau atynt ar hafwen.roberts@virgin.net

Gweddïwn y bydd Duw yn bendithio’n gwaith fel Synod ac y bydd y wefan hon yn fodd arall i
efengylu yn enw Iesu Grist. Dymunaf bob bendith arnoch fel defnyddwyr yr adnodd newydd hwn.


Y Parch. Patrick Slattery (Cadeirydd)


This web site has been set up by Synod Cymru to indicate the Welsh language churches currently open in Wales (and Derby).
Where bilingual or English language services are held, they are indicated in red on the appropriate circuit page.
Further information can be obtained from the church secretary.

Y Parch. Patrick Slattery
3, Nant y Gader, Dolgellau, LL40 1LB Ffôn / Ffacs: 01341 422524 E-bost: ps@penllwyn3.fsnet.co.uk

Previous arrowPrevious Page     Next PageNext arrow        Smaller fonts | Larger fonts     Go back to the flash version
1  |  2  |  3  |  4  |  5  |  6  |  7  |  8  |  9  |  10  |  11  |  12  |  13  |  14  |  15  |  16  |  17  |  18  |  19  |  20  |  21  |  22  |  23  |  24  |  25  |  26  |  27  |  28  |  29  |  30  |  31  |  32  |  33  |  34  |  35  |  36  |  37  |  38  |  39  |  40  |  41  |  42  |  43  |  44