Page 4 of 44
Previous Page     Next Page        Smaller fonts | Larger fonts     Go back to the flash version
EIN GALWAD yn yr Eglwys Fethodistaidd yw ymateb i efengyl cariad Duw
yng Nghrist ac i fyw bywyd y disgybl mewn addoliad a chenhadaeth

1 ADDOLIAD
Mae’r Eglwys yn bodoli i amlhau’r ymwybyddiaeth o bresenoldeb Duw ac i ddathlu
cariad Duw.
Beth sydd yn ein cynorthwyo i ganolbwyntio ein haddoliad ar Dduw?
Ym mha le a pha bryd y teimlwn bresenoldeb Duw? Sut gall y profiadau hyn
gyfoethogi gwasanaethau o addoliad?
Beth sydd yn ein cymell i astudio’r Beibl?
Beth sydd yn ein cynorthwyo i gyfleu parchedig ofn a rhyfeddod, diolchgarwch a
moliant, a chariad tuag at Dduw? Sut gallwn ddefnyddio adnoddau o’r Eglwys fyd-
eang?
Beth fyddai’n cynorthwyo ein haddoliad i wneud synnwyr i bobl sy’n dod ond yn
achlysurol?
A allwn wella cyfforddusrwydd a golwg y pethau sydd o gwmpas ynghyd â’r croeso
ar gyfer y rhai ag anabledd?
A yw ein haddoliad yr un fath fwy neu lai bob amser? A ddylem archwilio dulliau a
thraddodiadau addoli enwadau eraill a rhannau eraill o’r byd?
Beth yw ein cynlluniau a’n hamcanion ar gyfer gwella ein haddoliad yn ystod y
flwyddyn nesaf?


2 DYSGU a GOFALU
Mae’r Eglwys yn bodoli i helpu pobl i dyfu a dysgu fel Cristnogion drwy gynnal a
gofalu am ei gilydd.
Pa weithgareddau eglwysig sydd yn ein cynorthwyo fwyaf i ddyfnhau ein ffydd yn
Nuw?
Pa mor effeithiol yw ein grwpiau bychain, wrth gysylltu ffydd a bywyd pob dydd?
Sut ydym yn dysgu am her y bywyd Cristnogol heddiw gan eglwysi mewn mannau
eraill o Brydain a’r byd ehangach?
A oes gweithgareddau ymylol y dylem eu dwyn i ben, er mwyn neilltuo amser ar
gyfer ein hanghenion hyfforddiant a dysgu?
Pa weithgareddau sydd yn ei gwneud yn hawdd i eraill ymuno â ni? Pa gysylltiadau
sydd gennym â grwpiau sy’n defnyddio ein hadeiladau?
Beth a ddisgwyliwn oddi wrth ein bugeiliaid? Beth a ddisgwyliwn oddi wrth ein gilydd
mewn cynhaliaeth a gofal?
A ydym yn sylwi ar neu’n poeni am y rheini sy’n llithro ymaith neu’n gadael?
Beth yw ein cynlluniau a’n hamcanion ar gyfer datblygu ein bywyd gyda’n gilydd yn
ystod y flwyddyn nesaf?

Previous arrowPrevious Page     Next PageNext arrow        Smaller fonts | Larger fonts     Go back to the flash version
1  |  2  |  3  |  4  |  5  |  6  |  7  |  8  |  9  |  10  |  11  |  12  |  13  |  14  |  15  |  16  |  17  |  18  |  19  |  20  |  21  |  22  |  23  |  24  |  25  |  26  |  27  |  28  |  29  |  30  |  31  |  32  |  33  |  34  |  35  |  36  |  37  |  38  |  39  |  40  |  41  |  42  |  43  |  44