24 Newyddion
THE HERALD FRIDAY JANUARY 27 2017
Follow us on Twitter @ceredigherald
Archifau Cymru yn elwa o gyllid partneriaeth
Plas Tan y Bwlch: Y gwaith yn eu gwneud yn llawer mwy hygyrch i fyfyrwyr, ymchwilwyr a defnyddwyr lleol ER MWYN helpu i
gynnal gwaith cadwraeth ar eitemau bregus ac sydd wedi'u difrodi yn eu casgliadau, bydd gwasanaethau archifau Caerdydd a Cheredigion yn derbyn dros £12,000 o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth
Llawysgrifau
Genedlaethol (NMCT). Mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu
i ddiogelu eitemau sy'n cael eu cadw ar hyn o bryd. Ychydig sy’n cael eu trafod oherwydd eu cyflwr bregus, ond bydd y gwaith yn eu gwneud yn llawer mwy hygyrch i fyfyrwyr, ymchwilwyr a defnyddwyr lleol. Mae oddeutu £2900 yn cael ei
Florrie Hamer: Mae’r casgliad yn cynnwys dogfennau, cofiannau, llythyrau, ffotograffau ac effemera
ddyrannu i Brifysgol Caerdydd i ddiogelu ysgrifau Edward Thomas (1878-1917), un o feirdd Prydeinig mwyaf arwyddocaol y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd yr arian yn caniatáu i set o
lawysgrifau a nodiaduron personol iawn, sy'n disgrifio dull artistig Edward Thomas, gael eu diogelu. Bydd y gwaith yn caniatáu i'r
llawysgrifau a’r nodiaduron hyn gael eu rhannu â chynulleidfaoedd ac ymchwilwyr trwy’r byd. Mae'n cyd-fynd â chynhadledd sy'n cael ei chynnal eleni gan Brifysgol Caerdydd i gofio canmlwyddiant marw Edward Thomas. Bydd oddeutu £9200 yn cael ei
ddyrannu i Archifau Ceredigion i ddiogelu'r 'Florrie Hamer Papers'. Mae'r casgliad yn cynnwys
dogfennau, cofiannau, llythyrau, ffotograffau ac effemera Flora Hamer (1903 - 1994) a oedd yn ferch i weithwyr ystâd ac yn gymdeithes. Gweithiodd Flora â thri theulu
mawr lleol, gan gynnwys Yr Arglwydd Ystwyth o Danybwlch, y teulu Pryse o Ogerddan a'r teulu Powell o Nanteos. Roedd ei pherthynas unigryw gyda'r bonedd Seisnigaidd yn yr ardal mor Gymreig hon yn ddrws iddi at ffordd o fyw a oedd eisoes wedi dechrau ei ddirywiad anochel. Mae'r casgliad yn arwyddocaol
gan ei fod mor brin. Mae'n ficrocosm o ryfeddod cenedlaethol, yn fyfyrdod ar ddiwrnodau olaf ffordd o fyw a oedd wedi parhau am gannoedd o flynyddoedd. Bydd y gwaith cadwraeth yn cynnal ac yn diogelu'r eitemau, gan gadw cymaint o'u cymeriad gwreiddiol â phosib. Dywedodd Ysgrifennydd yr
Economi, Ken Skates: "Rwy'n ddiolchgar i Ymddiriedolwyr NMCT am eu cefnogaeth barhaus i brosiectau cadwraeth archifau Cymru. Ers 2008 rydym wedi ail- ddarganfod casgliadau ardderchog ac wedi caniatáu mynediad
atynt. Nid yw eleni'n eithriad gan y byddwn yn dechrau gwaith cadwraeth ar ddau gasgliad; nodiaduron Edward Thomas, un o feirdd mwyaf arwyddocaol y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r casgliad unigryw o ddeunydd a gasglwyd gan Florrie Hamer sydd yng ngofal Archifau Ceredigion ac sy'n darparu cipolwg hyfryd o oes a fu.” Ers 2008, mae'r NMCT, mewn
partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi cefnogi 37 o brosiectau ac wedi gwneud gwaith cadwraeth ar eitemau a chasgliadau sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol mewn archifau ledled Cymru. Mae'r eitemau'n cynnwys llythyrau o ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, Achau Teuluol a mapiau hanesyddol. Bydd y gwaith cadwraeth yn
gwella mynediad at yr eitemau unwaith y byddant mewn cyflwr sefydlog, gallant gael eu hastudio, eu trin a'u digideiddio'n ddiogel, ac o ganlyniad, eu darparu i gynulleidfaoedd ehangach dros y we.
Dywedodd yr Arglwydd Egremont, Cadeirydd
yr
Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Genedlaethol: "Rydym yn falch bod gwaith NMCT ar y cyd â Llywodraeth Cymru wedi arwain at gefnogi mwy o brosiectau cadwraeth o safon yng Nghymru. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Colwinston am eu cefnogaeth gyda'r prosiectau hyn. Diolch i bartneriaeth NMCT â Llywodraeth Cymru, rydym wedi dyfarnu dros £200,000 o grantiau ers 2008. Mae'r grantiau hyn yn sicrhau bod cannoedd o fapiau, llawysgrifau, papurau a chasgliadau arwyddocaol yn cael eu cadw a'u gwneud yn hygyrch - cyfraniad pwysig at ddiogelu hanes Cymru."
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48