THE HERALD FRIDAY JANUARY 27 2017
Like us on Facebook
facebook.com/ceredigionherald
23 Newyddion £500 am eu Prosiect ar Epilepsi MAE WYDDONIAETH
ADRAN COLEG
CEREDIGION dan arweinyddiaeth y tiwtor Sara Jones wedi ennill gwobr wyddoniaeth genedlaethol am eu prosiect yn edrych ar sut mae epilepsi yn effeithio ar fywydau pobl ifanc. Cafodd y gystadleuaeth
gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ei chyflwyno gan yr Urdd yn 2016 pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Sir y Fflint, a llwyddodd Coleg Ceredigion i ennill y gystadleuaeth ar gyfer disgyblion o dan 19 oed. Bu Trefnydd Cynorthwyol yr
Eisteddfod, Steffan Prys, yn yr ysgol dydd Mawrth, 24 o Ionawr yn cyflwyno siec am £500 i’r adran wyddoniaeth wario ar adnoddau. Yn ôl Anna ap Robert o Goleg “Mae
Ceredigion: cyflwyno
cystadlaethau newydd fel y gystadleuaeth wyddoniaeth yn holl bwysig i golegau addysg bellach oherwydd maen rhoi cyfle i lawer mwy o bobl ifanc 16+ i gystadlu a manteisio ar y cyfleoedd mae’r Urdd yn eu cynnig. “Yr eisin ar y gacen yw pan
fyddan nhw yn dod i’r brig ac yn ennill rhodd ariannol, mae wedyn yn galluogi’r coleg i ddarparu’r adnoddau
diweddaraf, gorau posibl i’r adran.” Caiff y gystadleuaeth ei noddi
gan gynllun Ffocws ar Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru a byddant eto yn cynnig gwobr i’r ysgol neu goleg buddugol yn 2017. Gellir cael mwy o wybodaeth am gystadleuaeth 2017 yn
urdd.cymru/ gwyddorau. Dyddiad cau cystadlu
yw’r 1af o Fawrth. Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
• Yn 2017, Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái fydd yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
• Yn 2018, Brycheiniog a Maesyfed fydd yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
gyda’r Eisteddfod yn ymweld â Chaerdydd a’r Fro yn 2019.
• Urdd Gobaith Cymru yw sefydliad ieuenctid mwyaf Cymru.
• Mae gan yr Urdd dros 54,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed.
• Nod yr Urdd yw rhoi cyfle i blant a phobl ifanc Cymru fyw eu bywydau trwy gyfrwng y
Gymraeg, gan ddatblygu hyder a pharch at ei gilydd ac at bobl ar draws y byd.
• Ymysg y gweithgareddau gynigir gan yr Urdd mae teithiau ac ymweliadau, chwaraeon, Eisteddfodau, adrannau,
cylchgronau, aelwydydd a gwersylloedd.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48