Cynhadledd Cynhwysiad Digidol Cymru: Adroddiad Cynhadledd 2008
09
Stephen Harmes Prosiect TGCh Eglwys Gymunedol Afon Dyfrdwy
I wylio’r cyflwyniad o’r sesiwn hon, rhowch glec yma
Yn dilyn Sharon, bu Stephen Harmes yn sôn wrth y gynulleidfa am ei brofiad yn rhedeg Prosiect TGCh Eglwys Gymunedol Afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint.
Dyma brif bwyntiau cyflwyniad Stephen:
Ddiwedd 2006, aeth ati i wella gwaith grwpiau cymunedol a oedd eisoes yn defnyddio’r ganolfan drwy ddarparu offer a hyfforddiant TG – diolch i nawdd gan Gymunedau @Ei Gilydd. Drwy recriwtio gweithiwr maes, llwyddodd Stephen i ehangu’r ddarpariaeth i gynnwys grwpiau newydd a oedd yn amlygu eu hunain, ac yn y pen draw, llwyddodd i gynnwys pawb yn nhref y Fflint.
Yn ei gyflwyniad, edrychodd Stephen ar yr ystod o brosiectau cymunedol maes sy’n cael eu darparu gan yr Eglwys Gymunedol ac sy’n cael eu gwasanaethu gan gyfleusterau TGCh. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys:
• Cyfleuster galw-heibio ar gyfer gweithwyr mudol: Mae hwn wedi cefnogi pobl a ddaeth i fyw i Sir y Fflint o nifer o wahanol wledydd, yn enwedig gweithwyr o Wlad Pwyl. Soniodd Stephen wrth y gynhadledd sut y llwyddodd y bobl hyn i oresgyn rhwystrau niferus i feistroli TGCh.
• Darpariaeth ieuenctid: Bydd cynifer â 40 o bobl ifanc yn mynychu’r ganolfan yn rheolaidd, yn bennaf er mwyn defnyddio’r cyfleusterau rhyngrwyd sydd ar gael yno.
• Cymdeithasau trigolion, gan gynnwys dau brosiect cymunedol maes ‘lloeren’ mewn dau leoliad, lle darperir hyfforddiant TG ychwanegol.
• Net Café: Cyfleuster rhyngrwyd rhad ac am ddim ar ddydd Sadwrn, sydd yn y broses o gael ei gynnal fel menter gymdeithasol. Dywedodd Stephen fod ei w
^ yr 2-oed yn
ymwelydd cyson ar ddydd Sadwrn, a’i fod eisoes yn dechrau ymddiddori mewn cyfrifiaduron!
Clywodd y gynhadledd wedyn sut y derbyniodd prosiect Afon Dyfrdwy lawer o gefnogaeth leol arwyddocaol a fu’n hanfodol i’w ddatblygiad a’i lwyddiant wedi hynny i ymgysylltu â’r gymuned.
Dywedodd Stephen mai bwriad y prosiect yw datblygu hunanhyder mewn buddiolwyr yn ogystal ag adeiladu’r prosiect i bwynt a fyddai’n golygu y byddai pawb yn y gymuned yn gallu bod yn rhan ohono.
Clôdd Stephen ei gyflwyniad drwy ystyried dyfodol y prosiect. Dywedodd fod cynllun busnes yn cael ei ffurfio gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru i helpu i ffurfio menter gymdeithasol. Yn y fenter, byddai ei staff yn darparu hyfforddiant TGCh ar gyfer busnesau lleol, gydag unrhyw incwm yn helpu i dalu am hyfforddiant TGCh ar gyfer y gymuned.
Previous Page