Page 2 of 4
Previous Page     Next Page        Smaller fonts | Larger fonts     Go back to the flash version

Cefnogi athrawon, cefnogi addysg

Teacher Support Cymru yn egluro’r hyn y gall ei gynnig i chi.

Datblygodd Teacher Support Cymru o Gronfa Llesiannol Athrawon yr NUT ac mae’n cynnig gwasanaeth ddwyieithog i athrawon yng Nghymru, o gefnogaeth ymarferol ac emosiynol trwy hyfforddiant e bost un-i- un i gwnsela cyfrinachol, wedi’i ffocysu ar ddatrys problemau dros y ffôn.

Cynigir y cymorth gan gwnselwyr ac anogwyr profiadol a chanddynt achrediad proffesiynol sydd hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth o feysydd addysg a gwleidyddiaeth Cymru. Cynigir amryw o wasanaethau gan yr elusen gan gynnwys darparu newyddion, arweinyddiaeth a thaflenni gwybodaeth ar destunau helaeth gan gynnwys reoli straen, bwlian yn y gweithle a datblygiad personol.

Cyflawnwyd astudiaeth ar y cyd rhwng NUT Cymru a Teacher Support Cymru i’r straen a wynebir gan athrawon. Fe fydd yr ymchwil yn allweddol wrth i’r elusen ddatblygu ei gwasanaethau.

Mae Teacher Support Cymru hefyd ar-lein, yn rhoi mynediad dwyieithog i athrawon i hyfforddiant trwy e bost a thaflenni gwybodaeth er mwyn eu lawrlwytho.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.teacher supportcymru.info neu ffoniwch 08000 855 088.

 

 

Byddwch yn ran o Batagonia!

Oes gennych chi ddiddordeb o fod yn ran o Batagonia gyfoes? O 1865 ymlaen, allfudodd sawl teulu o Gymru yno. Erbyn yr 1970au er hyn, dim ond rhai o’r henoed oedd yn siarad Cymraeg.

Yna yn 1997 sefydlodd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Y Cyngor Prydeinig a Chymdeithas Cymru Ariannin, cynllun a elwid Cynllun Yr Iaith ym Mhatagonia. Erbyn heddiw dysgir cyfanswm o 250 o oriau o Gymraeg mewn ysgolion ym Mhatagonia yn wythnosol i bob ystod oedran gan gynnwys oedolion. A dyma ble gallwch chi fod yn rhan!

Yn flynyddol caiff dau neu dri o athrawon profiadol eu recriwtio yng Nghymru i ymuno â’r cynllun am ddeng mis, o ddiwedd Chwefror tan ganol Rhagfyr – blwyddyn academaidd yr Ariannin.

Telir £750 y mis gan y cynllun (cyfwerth â chyflog athro/awes leol) yn ogystal a hediadau, llety ac yswiriant, a chynhwysir 30 diwrnod o wyliau (pro rata) yn y cytundeb.

Os ydych chi’n meddwl eich bod yn barod am her newydd ac eich bod yn medru perswadio eich pennaeth i’ch rhyddhau am ddeg mis (tua’r un cyfnod a chyfnod mamolaeth) yna cysylltwch â Lowri Jones yn y Cyngor Prydeinig Cymru (Lowri.jones@ britishcouncil.org) a fydd yn medru cynnig rhagor o fanylion a ffurflen gais.


Maent yn dangos y cerdyn coch i hiliaeth

Enillwyr cystadleuaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru ar gyfer 2011 oedd Ysgol Gynradd Hafod y Wern, Wrecsam, yr enillwyr cyntaf o Ogledd Cymru. Cynhyrchwyd fideo yn y categori cyfryngau ganddynt, ac enillwyd gliniadur ar gyfer yr ysgol a roddwyd gan yr NUT fel rhan o’i chefnogaeth o waith gwrth-hiliol.

Yn y llun ar y dde gwelir disgyblion o Ysgol Uwchradd Blaengwawr, Rhondda Cynon Taf, enillwyr categori cynllunio poster, gyda sêr chwaraeon Ali Mackenzie, Adam Matthews ac Enzo Maccarinelli a’r dyn busnes Mike Theodoulou (canol).

Previous arrowPrevious Page     Next PageNext arrow        Smaller fonts | Larger fonts     Go back to the flash version
1  |  2  |  3  |  4