Athrawon Cymru
Gan yr NUT ar gyfer holl athrawon Cymru
Rhifyn 38 Tymor y Gwanwyn 2011
Y Bwlch Ariannu Yn ehangu eto
Mae disgyblion yng Nghymru ar eu colled gan fod y bwlch ariannu y pen rhwng disgyblion yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu i £604 y flwyddyn.
Addawodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog i “wario 1 y cant yn fwy na’r grant bloc bob blwyddyn nes ein bod yn cyrraedd... cydraddoldeb mewn ariannu y pen i’w gymharu â Lloegr”. Addewid ddaeth o ganlyniad i ymgyrch Chwarae Teg i Blant yng Nghymru yr NUT. Dioddefodd yr addewid hwn ergyd aruthrol wrth i ffigurau Ionawr ddangos y bwlch, oedd yn £527 y disgybl, yn ehangu.
Er mwyn cyrraedd cydraddoldeb ariannu, fe fydd angen llawer iawn mwy na’r 1 y cant a addawyd. Fe fydd yr NUT yn gwasgu ar y weinyddiaeth bresennol, a Llywodraeth newydd y Cynulliad ym mis Mai, i sicrhau eu bod yn gweithredu yn syth.
Mae tanariannu yn achosi nifer o broblemau i addysg yng Nghymru:
• diswyddiadau yn ogystal â lefelau staffio annigonol
• diddymu cymorth yn yr ystafell ddosbarth
• cynnydd ym maint dosbarthiadau
• lleihad mewn adnoddau sydd eisoes yn brin
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr NUT, Christine Blower: “Ym mis Tachwedd 2009, addawodd Carwyn Jones i gynyddu ariannu addysg yng Nghymru o 1 y cant y flwyddyn o 2011 er mwyn cau’r bwlch ariannu. Gwelwyd twf o 14.6 y cant yn y bwlch ariannu. Mae’n amlwg bod yr addewid yn annigonol ac yn rhy hwyr. Rydym yn annog Llywodraeth y Cynulliad i weithredu yn syth i wneud iawn am y gwahaniaeth.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, David Evans: “Etifeddiaeth gan weinidogion addysg blaenorol yw’r bwlch ariannu, gan nad oeddent yn cydnabod ei fodolaeth. Mae’r gweinidog presennol yn cydnabod y bwlch, ond yn ddigon rhyfedd, nid yw’n derbyn ei effaith ar addysg.”
Am wybodaeth pellach am yr ymgyrch, ewch i www.teachers.org.uk/walesfunding.
Gwelwch dudalen 2 o Faniffesto NUT Cymru ar Addysg ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.
Ymunwch â fi ar y
26ain o Fawrth!
“Mae addysg yn lwybr allan o dlodi. Os fydd y Llywodraeth yn parhau gyda’r cynlluniau adfer presennol, ein plant bydd yn dioddef. Trwy dorri addysg rydych yn torri cyfleon. Dyna’r rheswm bydda i’n gorymdeithio ar y 26ain o Fawrth.”
Natasha Semp
• Am fanylion ar gyfer yr orymdaith ar y 26ain o Fawrth edrychwch yn rhifyn Mawrth-Ebrill o gylchgrawn The Teacher.
Previous Page