Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Rotari
Cystadleuaeth yw hon i fobl ifanc sy’n dal i fod yn yr ysgol a thrwy’r ysgol y byddant yn cystadlu er bod ambell i Glwb e.e. Aberaeron, Llanymddyfri a Chwm Rhondda yn eithaf “hands on”, ond gyda’r ysgolion yn uniongyrchol y bydd y cysylltiad mwyaf. Er hynny mi fyddem yn gwerth- fawrogi’n fawr mwy o gysylltiad drwy’r clybiau os oes yna glybiau fyddai’n dymuno cymryd mwy o ddiddordeb. Dechreuwyd y gystadleuaeth gan Griff Thomas o Glwb
Y Rhondda nol yn yr 80au ac ers hynny mi fues i a gofal am sbel ac yna bu David Marks o Gwmtawe un ei rhedeg am nifer fawr o flynyddoedd a nawr mae nol yn fy ngofal i. Mae’n gyfle gwych i rhoi llwyfan i dalentau bobl ifanc ym myd siarad cyhoeddus ac ynghyd a chystadlaethau’r Ffer- mwyr Ifanc mae wedi ysgogi nifer o fobl ifanc sydd nawr i’w gweld yn gohebu neu weithio ar sianelau teledu Cymru. Dwi ddim yn ymwybodol o neb sydd yn y Cynulliad a gym- rodd rhan ond falle hoffai rhywun fy nghywiro? Yn 2017 fe gynhaliwyd dwy ornest gyn-derfynol yn Ys- gol Bro Dinefwr, Llandeilo ac yn Ysgol Treorci – da oedd mynd nol i ardal sylfaenydd y gystadleuaeth ac fe gafwyd croeso bendigedig yn y ddau leoliad. Y beirniaid ym Mro Dinefwr oedd Gethin Thomas ac Eryl Mathias ac yn Ysgol Treorci roedd Robat Powell a Wyn Mears. Hoffen i ddiolch yn fawr i rhain am gytuno i feirniadu (rhai ar fyr rhybudd!!) ac am wneud y gwaith mewn ffordd sy’n ysgogi pob un o’r cystadleuwyr, ta beth yw ei safon.
Ym Mro Dinefwr bu 10 ysgol yn cystadlu sef Ysgolion
Cyfun Aberaeron, Bro Dinefwr, Bro Myrddin, Bro Teifi, Bryn Tawe, Dyffryn Aman, Maes y Gwendraeth, Gwyr, Pre- seli a Strade a chafwyd ystod eang o bynciau o’r Nadolig i Genhedlaetholdeb a sawl man yn y canol. Fe aeth 5 tim ym- laen i’r rownd derfynol gan fod siwd gymaint yn cystadlu. Yn Ysgol Treorci bu 6 tim yn cystadlu sef Ysgolion Cyfun Bro Morgannwg, Cwm Rhymni, Cwm Rhondda, Gartholwg, Treorci ac Ystalyfera. Falle byddai rhai Clybiau eraill am gysylltu a’i ysgoilion lleol i ysgogi rhagor o dimau o’r dwyrain i gystadlu? Roedd hi’n braf cael cynnal y gystadleuaeth yn Ysgol Treorci ac roedd y brwdfrydedd at y gystadleuaeth yn amlwg ymysg y Prifathro a’r staff a diolch iddynt. Fe aeth tri tim drwyddo i’r rownd derfynol sef han- ner y rhai fu’n cystadlu.
Cynhaliwyd y rownd derfynol yn Nhy Hywel, Bae Caerdydd drwy drefniant gan Ceri Jones (CR Bae Caerdydd) a thrwy wahoddiad Adam Price AC. Y timau ddaeth drwyddo oedd Aberaeron, Bro Morgannwg, Bro Dinefwr, Bro Myrddin, Bryn Tawe, Cwm Rhondda, Maes y Gwendraeth ac Ystalyfera ac fel hyn y dyfarnwyd y gwobrau gan y beirniaid hynod brofiadol sef Dr. R Alun Evans, Gethin Thomas a David Williams
Cadeirydd Gorau- Cyntaf – Seren Farrup (Cwm Rhondda), Ail – Dafydd Daniel (Bro Dinefwr), Trydydd – Ffion Anderson (Maes y Gwendraeth)
Cynigydd Gorau – Cyntaf – Heledd Jones (Bro Myrddin), Ail -Nansi Eccott (Bryn Tawe), Trydydd -Jenni Page (Cwm Rhondda) Gwrthwynebydd Gorau - Cyntaf – Evie Connolly (Cwm Rhondda), Ail- Garmon Dyfri (Bro Myrddin), Trydydd – Heledd Haf (Aberaeron)
Daeth hi ddim yn syndod felly mae Ysgol Cwm Rhondda oedd y tim buddugol eto eleni ac mae’r siaradwr gorau oedd Evie Connolly, eto am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae gan Evie y ddawn o dynnu chi mewn i’w phwnc a dyw hi ddim yn rhoi dewis i chi – mae’n rhaid gwrando a dwi’n siwr fe glywn ni mwy wrthi ar rhyw lwyfan yn y dyfodol ynghyd a sawl un arall oedd yn y gystadleuaeth eleni! Y tim ddaeth yn ail oedd Bro Myrddin ac yn drydydd oedd Bryn Tawe. Mae yna ddiolch yn arbennig I Dan Jones o Glwb Rotari Llanymddyfri am gynorthwyo ar hyd y ffordd ac am gofnodi amser ac hefyd i Gwenda Griffiths a Maggie Hughes am wneud y cyflwyniadau yn ystod y Rownd Derfynol. I gloi gau annog holl glybiau Rhanbarth 1150 i ysgogi ei ysgolion lleol i gymryd rhan. Does dim rhaid eu bod yn ysgolion penodedig Cymraeg ee dyw Bro Dinefwr, Aberaeron, Llanbed, Dyffryn Amman na Threorci ddim yn rhan o’r diffuniad hyn, ac os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi neu’r ysgolion yna cysylltwch drwy ebost at
dyer-j4@sky.com. Fe gynhelir y gystadleuaeth yn nhymor yr Hydref bob blwyddyn.
Diolch i bawb Dai Dyer
Clwb Rotari Llanymddyfri
Eight teams from across District 1150 gathered at Ty Hywel, Cardiff Bay for the final of the Welsh District Youth Speaks.
The subjects covered by the teams were diverse and thought provoking – Football players salaries, Ta ta to Christmas, Devolution and the Welsh language – to name but a few. How the judges – Dr R. Alun Evans, Gethin Thomas and David Williams were able to adjudicate such excellent presentations, was indeed a difficult job. The presentations were excellent by all the teams Winning team was Ysgol Gyfun Cymer Rhondda (sponsored by the Rotary Club of Rhondda). The team members were Seren Farrup (chairperson), Jenni Page (proposer), Evie Connolly (opposer). Seren also won the prize for best chairperson, Jenni was 2nd for best proposer. Evie won best opposer and best overall speaker. Runner-up was Ysgol Gyfun Bro Myrddin (Sponsored by Carmarthem club) and 3rd place was awarded to Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe (sponsored by Morriston club). The event was sponsored by Adam Price AM.
17
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32