Page 3 of 4
Previous Page     Next Page        Smaller fonts | Larger fonts     Go back to the flash version

Page 3

 

Peidiwch oedi – croeswch y trothwy

Os ydych ar bwynt P6 o’r brif raddfa gyflog, rydych yn gymwys i wneud cais i groesi’r trothwy i’r Uwch Raddfa Gyflog (o P6 i U1).

Sut ydw i’n croesi’r trothwy?

Cwblhewch y ffurflen gais sydd ar wefan yr Adran addysg (DfE) gwefan www.education.gov.uk Teipiwch ‘trothwy rownd 12’ i’r blwch ‘chwilio’.

Beth ddylwn i gynnwys yn y ffurflen?

Mae canllawiau ar gwblhau’r ffurflen ar wefan yr NUT trwy ymweld â www.teachers.org.uk/node/12715. Gellir dod o hyd i ganllaw y DfE gyda’r ffurflen gais (Canllaw Rownd 10 sy’n parhau i fod yn gyfredol).

Cyflwynwch eich ffurflen wedi’i gwblhau i’ch pennaeth cyn 31 Awst. Yn ddelfrydol, dylech ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn ysgol, gan ei fod yn debygol y bydd eich pennaeth yn awyddus i’w drafod gyda chi. Dylai eich pennaeth wneud penderfyniad cyn 31 Hydref. Os fuoch yn llwyddiannus, rydych yn symud i U1 o’r 1af o Fedi.

Os na fuoch yn llwyddiannus, mae yna weithdrefnau apelio. Dylech drafod hyn gyda’ch cynrychiolydd ysgol.

Beth os i chi groesi’r trothwy eisoes?

Os ydych ar U1 eisoes, dylech symud i U2 wedi 2 flynedd, ac U3 ymhen dwy flynedd arall.

Mae disgwyl i’ch pennaeth i asesu eich pwynt cyflog o 1 Medi pob blwyddyn. Os na symudoch i U2, trafodwch gyda’ch cynrychiolydd ysgol a gofynwch am gyfarfod gyda’ch pennaeth.

Er mwyn datblygu ar y raddfa mae’n rhaid eich bod wedi dangos cyfraniad parhaol a sylweddol i’ch ysgol (neu ysgolion) dros gyfnod o ddwy flynedd. U3 yw brig y raddfa.

Nid yw hanner cant y cant o athrawon sy’n gymwys i groesi’r trothwy yn ymgeisio!


Byddwch yn greadigol

Mae athrawes gynradd ac aelod yr NUT Patricia Sumner yn rhannu ei harbenigedd gydag athrawon dosbarth eraill trwy ddau lyfr newydd.

Mae Creadigrwydd trwy Iaith, Llyfr 1 – Sut i addysgu ysgrifennu ffuglennol, a chreadigrwydd trwy iaith, Llyfr 2 – Sut i addysgu ysgrifennu ffeithiol, yn helpu athrawon i ddatblygu creadigrwydd, ac yn benodol meddwl ac ysgrifennu creadigol, yn yr ystafell ddosbarth.

Dywedodd: “Cynlluniwyd y llyfrau er mwyn cefnogi athrawon wrth iddynt gynllunio gwersi ac i’w cynorthwyo i ddatblygu mewn hyder wrth addysgu ysgrifennu creadigol.” Mae’r llyfrau yn cynnwys syniadau gwreiddiol ar gyfer eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, gyda chynlluniau gwersi datblygol er mwyn adeiladu ar greadigrwydd a sgiliau ysgrifennu cam wrth gam.

Mae’r llyfrau ar gael o unrhyw siop lyfrau dda. Am fanylion pellach, e bostiwch info@aber-publishing.co.uk.

 

Diolch, darlithwyr

Dangosodd dros 100 o fyfyrwyr yn y drydedd flwyddyn ar y cwrs SAC yn y Drindod Dewi Sant eu gwerthfawrogiad i’w darlithwyr gyda noson Diolch i’r Darlithwyr yn Neuadd Halliwell y brifysgol ym mis Mai. Cefnogwyd y noson gan NUT Cymru a rhanbarth sir Gaerfyrddin.

“Rydym yn teimlo bod y darlithwyr yn haeddu clod am eu gwaith caled,” dywedodd myfyrwraig a threfnwraig y noson Katherine Whatley, gwelir hi yn y llun gyda’i chyd drefnydd Victoria Francis.


Previous arrowPrevious Page     Next PageNext arrow        Smaller fonts | Larger fonts     Go back to the flash version
1  |  2  |  3  |  4