This page contains a Flash digital edition of a book.
28 Newyddion


THE HERALD FRIDAY SEPTEMBER 30 2016


Follow us on Twitter @ceredigherald


Ydy’r strategaeth iaith yn gweithio?


Gallu siarad Cymraeg


Aberaeron Aberporth


Aberteifi-Mwldan


Aberteifi-Rhyd-y- Fuwch


Abeteifi-Teifi


Aberystwyth Bronglais


Aberystwyth Central Aberystwyth North


Aberystwyth Penparcau


Aberystwyth Rheidol Beulah Borth


Capel Dewi


Ceinewydd/ New Quay


MAE FFIGYRAU sy’n dangos bod


nifer o siaradwyr Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yng Ngheredigion wedi gostwng ers 2015 wedi codi cwestiynau am strategaeth hybu’r Gymraeg Ceredigion. Mewn llythyr at Brif Weithredwr


ac Arweinydd Cyngor Ceredigion mae Cymdeithas yr Iaith yn nodi nifer o bethau sydd ar goll o’r strategaeth gan fod pwyslais ar gynnal yr hyn sy’n digwydd eisoes yn hytrach na datblygu ac adeiladu. Ymysg argymhellion y Gymdeithas mae galw bod: • Holl sefydliadau Bwrdd Gwasanaethau Lleol Ceredigion yn sicrhau fod sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn orfodol ar gyfer eu holl swyddi gan nodi sut mae’r holl sefydliadau yn mynd i hybu a chefnogi eu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.


• Cynnwys y sector breifat a masnachol yn y Strategaeth er mwyn i’r Gymraeg fod yn weledol ar y stryd fawr ac yn adlewyrchu Cymreictod Ceredigion.


• Cefnogi siaradwyr Cymraeg a datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr sydd wedi eu hyfforddi mewn meysydd arbenigol er mwyn eu galluogi i ddychwelyd neu aros yng Ngheredigion i weithio.


Dywedodd llefarydd ar ran y


Gymdeithas yn lleol: “Cwympo mae’r nifer o siaradwyr Cymraeg ac os yw’r Cyngor Sir a sefydliadau cyhoeddus eraill eisiau atal hynny mae angen strategaeth flaengar sydd yn mynd i’r afael â phroblemau fel allfudo. Yn fwy na hynny faint o bobl sydd yn gwybod fod y strategaeth hon yn bod? Pam na


fyddai’r Cyngor wedi manteisio ar yr holl grwpiau a mudiadau cymunedol sydd yng Ngheredigion er mwyn i bawb chwarae rhan? Yr un yw’n dyhead yn y pen draw.” Ymatebodd llefarydd ar ran Cyngor


Sir Ceredigion: ‘Mewn amser o heriau sylweddol yn y sector gyhoeddus, mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o barhau i fod wedi ymrwymo i weithredu ei Strategaeth ar gyfer yr Iaith Gymraeg yng Ngheredigion. Cyngor Sir Ceredigion yw yn un o’r siroedd cyntaf i gyhoeddi Strategaeth Iaith (Ebrill 2015), a hynny er mwyn ceisio ymateb yn rhagweithiol i ganlyniad Cyfrifiad 2011, a oedd yn adrodd bod gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws y sir; rhaid cofio hefyd bod y sefyllfa ieithyddol yng Ngheredigion yn adlewyrchu’r tueddiadau cenedlaethol. ‘Er mwyn datblygu’r Strategaeth


bu’r Cyngor yn gweithio gydag arbenigwyr ym maes Cynllunio Iaith, a bu’n ymgynghori gyda chyrff allweddol, cynrychiolwyr o sefydliadau ynghyd â mudiadau sy’n gweithredu i hwyluso defnydd o’r Gymraeg o fewn y sir. ‘Mae Cyngor Sir Ceredigion yn


falch i nodi bod sefydliadau cyhoeddus eraill sy’n rhan o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion hefyd wedi cytuno i gyd-weithio effeithiol ac effeithlon ar sail y strategaeth hon, er mwyn cefnogi’r gwaith da sy’n digwydd eisoes ledled y sir, gan hefyd adnabod ffyrdd i adeiladu ymhellach ar y gwaith hwnnw o fewn cwmpas dylanwad yr aelodau, yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. ‘Yn ogystal mae’r Strategaeth wedi


ymrwymo i gefnogi gwaith Cered (Menter Iaith Ceredigion). Prif nôd Cered yw cefnogi, dylanwadu a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion er mwyn gosod y seiliau gorau posibl ar gyfer tyfu a datblygu’r Gymraeg ar lefel gymunedol


Ceulanamaesmawr Cilau Aeron Faenor


Llanarth


Llanbadarn Fawr - Padarn


Llanbadarn Fawr- Sulien


Llanbedr PS/ Lampeter


Llandyfriog


Llandysilio-gogo Llandysul Town Llanfarian


Llanfihangel Ystrad Llangeitho Llangybi


Llanrhystyd


Llansantffraed Llanwenog Lledrod


Melindwr Penbryn Pen-parc


Tirymynach Trefeurig Tregaron


Troedyraur Ystwyth


60% 44% 59%


56% 47% 37% 27%


24% 36% 30%


53% 41% 51%


42% 53%


54% 33% 51%


41% 24%


47% 55%


51% 64% 54% 57% 55% 49% 58% 52% 59% 54% 49% 48% 55% 55% 56% 67% 51% 58%


a chymdeithasol, mewn addysg ac yn y byd gwaith. Un o’r prosiectau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y sector breifat a masnachol yw Siarter Iaith Ceredigon. ‘Mae 268 o fusnesau eisoes wedi


derbyn tystysgrif Siarter Iaith Ceredigion. Hefyd, yn dilyn ymgyrch yn Llambed


Siarad, darllen ac ysgrifennu


46% 35% 44%


42% 35% 33% 22%


19% 26% 25%


45% 33% 43%


32% 44%


45% 27% 42%


31% 19%


38% 44%


43% 53% 44% 49% 46% 40% 48% 43% 52% 46% 42% 41% 43% 44% 45% 56% 44% 49%


dros yr wythnosau diwethaf bydd 55 busnes ychwanegol yn derbyn tystysgrif yn yr Hydref. ‘Mae Siarter Iaith Ceredigion


yn agored i bob mudiad, sefydliad, gwasanaeth, clwb neu fusnes o fewn y sir sydd yn fodlon cwblhau hunanasesiad er mwyn dadansoddi’r gwasanaeth


Deall Cymraeg yn unig


8%


11% 12%


11% 11% 7% 5%


5%


15% 7%


8% 9% 7%


12% 8%


8% 7% 8%


13% 6%


6% 7%


8% 7%


10% 6% 7% 8% 7% 8% 6% 7% 8% 7% 8% 9%


10% 6% 6% 8%


Dim sgiliau Cymraeg


30% 43% 28%


30% 38% 54% 66%


69% 46% 60%


38% 48% 41%


44% 37%


37% 57% 40%


43% 67%


44% 37%


39% 28% 32% 35% 36% 41% 33% 38% 34% 37% 40% 42% 35% 33% 31% 25% 41% 33%


dwyieithog a gynigir. Prif nôd y Siarter yw codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog sy’n cael eu darparu ar draws y sir, yn ogystal â hybu gwell cysondeb a chydweithredu rhwng asiantaethau, a hynny er mwyn darparu gwasanaeth cynhwysfawr i bobl yn eu dewis iaith’.


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28  |  Page 29  |  Page 30  |  Page 31  |  Page 32  |  Page 33  |  Page 34  |  Page 35  |  Page 36  |  Page 37  |  Page 38  |  Page 39  |  Page 40  |  Page 41  |  Page 42  |  Page 43  |  Page 44  |  Page 45  |  Page 46  |  Page 47  |  Page 48  |  Page 49  |  Page 50  |  Page 51  |  Page 52  |  Page 53  |  Page 54  |  Page 55  |  Page 56