This page contains a Flash digital edition of a book.
THE HERALD FRIDAY SEPTEMBER 30 2016


Like us on Facebook facebook.com/ceredigionherald


Y Cyfweliad Herald – Eiry Thomas


YN Y FLWYDDYN newydd


bydd yr ail gyfres o Byw Celwydd ar y teledu. Yr wythnos diwethaf gwnaeth yr Herald gwrdd ac actorion o’r gyfres ar y set yn Nghaerdydd. Yn yr cyfweliad hwn, buom yn siarad efo Eiry Thomas sy’n chwarae rhan Catrin Williams, arweinydd y Democratiaid yn y gyfres. I ddisgrifio ei gymeriad a dweud:


‘’Mae hi’n weithgar iawn, maen tueddu ochri braidd gyda Meirion, y Prif Weinidog, a maen tueddu i chwarae saff efo pethau sy’n achosi lot o drwbl efo’i gŵr (cymeriad Mark Lewis Jones, Dylan Williams) achos felly maent yn tynnu gormod ein ffordd wleidyddol a hyn yn effeithio arnynt hwy yn bersonol.’’ Yn y gyfres hon, cafodd nhw y


siawns i ffilmio yn y siambr, yn y Senedd a dywedodd am y profiad: “Odd e mor gyffroes. O ni yno bythefnos yn ôl, a cefais gyd eistedd, a ro’n ni’n eistedd yn nghadair Jane Hutt! Rodd Ken Skates ar fy mhwys a wedyn rodd Carol Jones ar y chwyth. Mae’r sain yno, mae’n bren i gyd ond ti’n gallu clywed unrhyw sibrwd o’r ochr arall i’r ystafell. Byddet ddim yn gallu cadw cyfrinachau. Mae’n amazing yno!” Am ymchwil ar gyfer ei chymeriad


dywedodd: “Rwy’n gwylio’r newyddion a YouTube, i wylio sut mae


Rhian Morgan Reporter


Rhian.Morgan@herald.email


nhw’n siarad, a sut mae gwleidyddwyr yn siarad ar y newyddion. Pan mae nhw’n cael cyfweliad sut mae nhw’n edrych, mae nhw’n ‘composed’ neu odi nhw’n dangos rhywbeth bach yn mynd o’i le?” Bydd y gynulleidfa yn disgwyl


ymlaen at mwy o ‘shenanigans’ a pherthnasau’n datblygu a phethau’n symud. Gan bod gwleidyddiaeth yn newid


yn gyflym, dywedodd am yr effaith y bydd yn cael ar y gyfres: “Mae’r holl beth sydd wedi digwydd yn y wlad yn gyffroes iawn eleni, a ma pawb wedi dweud beth ma Byw Celwydd yn mynd i’w wneud nawr achos beth sy’n digwydd yn mhywyd go iawn mor ddramatig.” Cafodd Eiry rhoi ar y fan pan


gofynnwyd i ddisgrifio Byw Celwydd mewn cwpl o eiriau, disgrifiwyd fel: “pwy sy’n cysgu efo pwy ond dim yn y ffordd yna. Ble mae’r personol a gweledigaeth. Mae diddordeb gyda fi i weld beth sy’n digwydd ar y tu fas, shwt ma rhywun yn annerch y gynulleidfa yn portreadu rhywbeth positif neu rhyw stori a beth sydd yn digwydd tu fewn. Mae’r ddau beth yna yn ddiddorol iawn i chwarae a diddorol iawn yn y rhaglen. Beth sy’n wir yn mynd ymlaen efo’r pobl yma.”


Wyn Mason: Enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Meifod 2015 BYDD ENILLYDD y Fedal


Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2015, Wyn Mason, yn canolbwyntio ar ddatblygu ymchwil ym maes ysgrifennu creadigol gydag Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Ei nod yw defnyddio albwm Eilydd


Na Ddefnyddiwyd gan Geraint Jarman i ymchwilio i’r berthynas rhwng cerddoriaeth, rhyddiaith a drama. Bydd yr awdur o Lanfarian ger Aberystwyth, yn falch o fedru ymrwymo i ddatblygu ei grefft yn y Gymraeg ar ôl treulio’r blynyddoedd diwethaf yn darlithio drwy gyfrwng y Saesneg. Mae tri myfyriwr wedi ennill


ysgoloriaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddilyn doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Rebecca Evans o’r Bala,


Gruffydd Lloyd Jones o Bwllheli a Heddwen Lleucu Daniel o Aberystwyth ymhlith deg o fyfyrwyr PhD ar draws Cymru bydd yn cael cefnogaeth ariannol gan y CCC am gyfnod o dair blynedd.


27 Newyddion Dyfarnu Ysgoloriaethau


Bydd Rebecca a Gruffydd ill dau yn


dilyn doethuriaeth ym maes Gwyddor Amgylchedd yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Mae Rebecca newydd gwblhau


MSc mewn Gwyddor Biofeddygol ym Mhrifysgol Bryste. Bydd disgwyl iddi gyfrannu at ddysgu cyfrwng Cymraeg ym maes biocemeg yn ogystal â defnyddio’i harbenigedd i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu gradd newydd sbon sef ‘Bioleg ac Iechyd Dynol’. Maes ymchwil Gruffydd fydd


sefyllfa’r Rhododendron yng Nghymru a’r effeithiau mae hyn yn cael ar fioamrywiaeth a datblygu dulliau o’i reoli. Mae’n awyddus i ddatblygu’r diddordeb sydd ganddo mewn ecoleg a’r amgylchedd a chreu mwy o raddedigion dwyieithog i’r sectorau amgylcheddol a biolegol yng Nghymru. Mae Heddwen wedi penderfynu


canolbwyntio ar gyfiawnder ieuenctid ac astudio’r berthynas rhwng pobl


ifanc yn eu harddegau â’u hysgol. Mae’n gobeithio cyfweld gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc yn ogystal â chyfrannu at yr ychydig lenyddiaeth cyfrwng Cymraeg sy’n bodoli ym maes Troseddeg ar hyn o bryd. Dywedodd Dr Rhodri Llwyd


Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n destun balchder bod y tri myfyriwr disglair yma wedi dewis dilyn eu doethuriaeth yn Aberystwyth. Mae hyrwyddo ymchwil o safon yn holl bwysig i ni fel sefydliad ac fe gafodd hynny ei adlewyrchu yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 a ddyfarnodd bod 95% o’r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd yn cyrraedd safon gydnabyddedig ryngwladol neu uwch na hynny. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg ar draws ein rhaglenni gradd ac ôl-radd er mwyn hyrwyddo addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac rydyn ni’n ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol sy’n cael ei estyn i Rebecca, Gruffudd ac Heddwen”


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28  |  Page 29  |  Page 30  |  Page 31  |  Page 32  |  Page 33  |  Page 34  |  Page 35  |  Page 36  |  Page 37  |  Page 38  |  Page 39  |  Page 40  |  Page 41  |  Page 42  |  Page 43  |  Page 44  |  Page 45  |  Page 46  |  Page 47  |  Page 48  |  Page 49  |  Page 50  |  Page 51  |  Page 52  |  Page 53  |  Page 54  |  Page 55  |  Page 56