This page contains a Flash digital edition of a book.
28 Newyddion


THE HERALD FRIDAY SEPTEMBER 9 2016


Follow us on Twitter @ceredigherald


Cyfraddau goroesi ar gyfer gofal critigol yn gwella


Prif Weithredwr GIG Cymru: “Mae darparu gofal i gleifion difrifol wael yng Nghymru yn her, felly mae’n galonogol gweld gwelliant mewn rhai meysydd o ofal critigol yng Nghymru. Mae hynny’n deyrnged i bob un sy’n cyfrannu at y gwaith yn y maes pwysig hwn. “Er hynny, mae angen inni


‘Ry’n ni wedi gweld cynnydd yn y cyfraddau goroesi’: Vaughan Gething AC MAE’R CYFRADDAU goroesi


ar gyfer gwasanaethau gofal critigol yng Nghymru yn gwella ond mae mwy i’w wneud o hyd, yn ôl yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer pobl sy’n Ddifrifol Wael sy’n cael ei gyhoeddi. Er hynny, mae mwy i’w wneud o hyd i wella’r gofal er mwyn sicrhau


bod y bobl sydd fwyaf difrifol wael yn cael y gofal priodol. Mae hyn yn cynnwys ymdrin â heriau o ran staffio, lleihau hyd yr arhosiad mewn ysbyty ar gyfartaledd, a lleihau’r oedi cyn trosglwyddo cleifion i wardiau eraill. Tynnir sylw at rai o’r materion hyn yn yr adroddiad ymgysylltu â’r gweithlu a gyhoeddwyd gan y


fynd ati nawr i adeiladu ar hyn a gweithredu’n gyflym i ymdrin â meysydd lle mae’r gwaith o wneud cynnydd yn fwy o broblem. Mae’r Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys wedi dangos yn glir ein bod ni – fel rhannau eraill o’r DU ac ymhellach na hynny – yn wynebu heriau o ran recriwtio ac o ran y cynnydd yn y galw am ofal. Ry’n ni eisiau taclo’r heriau hynny’n uniongyrchol – gyda’n timau clinigol – a sicrhau bod gwasanaethau’n gwella. “Ry’n ni’n disgwyl i’r byrddau


Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys yn gynharach y mis hwn. Dywedodd yr Ysgrifennydd


Iechyd, Vaughan Gething: “Ry’n ni’n gwybod bod rhai meysydd lle mae’r gofal yn gwella. Yn bwysig iawn, ry’n ni wedi gweld cynnydd yn y cyfraddau goroesi, ynghyd â gostyngiad yn nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn yn ôl i


Mae’r adroddiad yn dangos:


• bod cyfraddau goroesi mewn adrannau gofal critigol yn codi - 83% o’i gymharu â 79% yn 2011-12


• yn ystod chwarter cyntaf 2016, llai nag 1% o’r holl gleifion gofal critigol a gafodd eu haildderbyn i’r ysbyty o fewn 48 awr ar ôl eu rhyddhau; mae hynny’n dangos bod y prosesau gofal a rhyddhau yn gweithio’n dda


• cafwyd gostyngiad o 21% dros y pum mlynedd diwethaf yn nifer y cleifion a drosglwyddwyd am resymau heblaw rhai clinigol


• pan fydd cleifion difrifol wael yn cael eu trosglwyddo rhwng ysbytai, mae’r trosglwyddiadau hynny’n digwydd mewn modd mwy diogel; cafodd 79.4% o’r holl drosglwyddiadau eu graddio’n dda neu’n ardderchog yn 2015 o’i gymharu â 65.4% yn 2009


• mae nifer y cleifion mewn unedau gofal critigol sydd wedi profi’n bositif am MRSA neu C.Difficile yn gostwng dros gyfnod





i helpu i wella gwasanaethau mae unedau gofal critigol yng Nghymru yn gofyn am adborth ar eu gwasanaethau gan ofalwyr, gan ddefnyddio arolwg cenedlaethol i ofalwyr; gwneir hynny am fod y cleifion eu hunain yn aml yn methu â chofio’r cyfnod hwn yn dda iawn.


gael gofal critigol yn fuan ar ôl gadael yr ysbyty. “Mae’r adroddiad hwn yn dangos


ein hymrwymiad i fod yn dryloyw. Mae’n nodi hefyd pa welliannau y mae angen i’r GIG eu gwneud er mwyn inni allu gneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael gafael ar ofal critigol ardderchog ledled Cymru. “Ry’n ni wedi darparu £1m i


helpu i ddatblygu system wybodaeth glinigol electronig lawn ar draws Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i roi cymorth ychwanegol i unedau llai.” Dywedodd Dr Andrew Goodall,


iechyd ddal ati i gydweithio a chynllunio ar lefel ranbarthol i ymdrin â’r materion y mae’r gwasanaeth yn eu hwynebu ac i gwrdd â’r galw cynyddol. “I lwyddo yn hynny o beth, mae


gofyn cael llif effeithiol o gleifon drwy’r ysbytai ac i’r gymuned. Yr unig ffordd o gyflawni hynny yw trwy i’r byrddau iechyd fabwysiadu dull ‘ysbyty cyfan’ o ymdrin â gofal critigol. Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â nhw a byddwn yn cymryd sylw o’r ddau adroddiad hwn wrth fynd ati i ddiwygio ein cynlluniau cyflawni yng Nghymru.”


Prosiect yn rhoi hwb i’r economi wledig MAE PROSIECT £10.8m i


roi hwb i economi Cymru a chreu swyddi trwy gyfrwng ei thirwedd a’i bywyd gwyllt wedi esgor ar ganlyniadau gwych. Cafodd y prosiect Cymunedau a


Natur (CAN) ei reoli ar y cychwyn gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac wedyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Mae’r prosiect yn gwahodd


syniadau gan sector amgylcheddol Cymru ar gyfer datblygu seilwaith ac atyniadau i ymwelwyr yng nghefn gwlad Cymru, tra’n caniatáu ar yr un pryd i grwpiau difreintiedig elwa’n sgil swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd i wirfoddoli. Mae nifer o’r syniadau hyn nid yn


unig wedi gwella cyfleusterau sydd i’w cael yn barod a chreu rhai newydd, ond hefyd wedi creu busnesau gwledig bach a swyddi cynaliadwy. Meddai Helga Dixon, Swyddog


Prosiect CAN: “Mae hi wedi bod yn anhygoel gweld sut y mae staff mewn atyniadau bywyd gwyllt a chefn gwlad yng Nghymru wedi gallu dyfeisio nodweddion newydd ac adeiladu mentrau busnes ar eu sail, heb fawr ddim anogaeth, cyngor nac arian gennym ni. “Mwy rhyfeddol fyth yw’r


cyfle a roddwyd i bobl ddi-waith a grwpiau difreintiedig weithio a dysgu sgiliau newydd. Fel amod ar gael


arian gennym, fe wnaethon ni nodi y byddai’n rhaid i bob prosiect gynnwys cyfleoedd o’r fath, a gadawyd y cyfleoedd hyn yn nwylo rheolwyr y prosiectau i’w datblygu. “Bu hynny’n benderfyniad da,


oherwydd rhoddodd gyfle i bobl esgor ar amryw byd o atebion creadigol.” Helpodd CAN i greu 31 o swyddi


newydd ac 11 o fentrau busnes newydd, llwyddodd i agor 440 cilometr o lwybrau ac arweiniodd at fwy nag 1.7m o ymweliadau â chefn gwlad Cymru. Ymhellach, mae gwerthusiad


Ysgol Fusnes Caerdydd o brosiect CAN wedi canfod bod effaith anuniongyrchol yr arian a wariwyd gan ymwelwyr oddeutu £5,700,000 o werth ychwanegol gros bob blwyddyn, gan gynnal 309 o swyddi cyfwerth ag amser llawn.


Ychwanegodd Helga: “Mae’r


effaith gadarnhaol a gafodd y prosiect ar fywydau pobl yn cynnwys graddedigion ifanc neu rai newydd raddio yn llwyddo i gael eu swydd gyntaf, pobl hŷn yn dysgu sgiliau newydd, cyfleoedd newydd i bobl ag anawsterau dysgu, a phobl ifanc ddi- waith heb gymwysterau’n cael eu profiad cyntaf o waith rheolaidd. “Ymhellach, llwyddodd y prosiect


i godi proffil nifer o’r safleoedd a’r mentrau hyn, gan roi hwb i’r economi leol trwy ddenu ymwelwyr o bob cwr o Brydain ac Ewrop.”


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28  |  Page 29  |  Page 30  |  Page 31  |  Page 32  |  Page 33  |  Page 34  |  Page 35  |  Page 36  |  Page 37  |  Page 38  |  Page 39  |  Page 40  |  Page 41  |  Page 42  |  Page 43  |  Page 44  |  Page 45  |  Page 46  |  Page 47  |  Page 48  |  Page 49  |  Page 50  |  Page 51  |  Page 52  |  Page 53  |  Page 54  |  Page 55  |  Page 56