This page contains a Flash digital edition of a book.
THE HERALD FRIDAY SEPTEMBER 9 2016


Like us on Facebook facebook.com/ceredigionherald


UAC yn cynnal cyfarfodydd


ymgynghorol ar Brexit gydag aelodau MAE CANGHENNAU sirol


Undeb Amaethwyr Cymru yn cyfarfod â aelodau’r undeb ar draws Cymru er mwyn ymgynghori ar bolisiau amaethyddol y dyfodol yn dilyn Brexit. Cyhoeddodd yr Undeb ddogfen


ymgynghori fewnol, yn ogystal â holiadur ar-lein i’w haelodaeth mewn ymgais i glywed eu barn ar ddyfodol amaethyddiaeth yn dilyn Brexit. Mae cyfarfodydd llwyddiannus


eisoes wedi cael eu cynnal yn Sir Drefaldwyn, Sir Benfro, Brycheiniog a Maesyfed, Sir Gaerfyrddin, Dinbych a Fflint ac ym Morgannwg. Cynhelir rhagor o gyfarfodydd ar gyfer aelodau yng Ngwent ar nos Lun 12 Medi i ddechrau am 7.30yh yn Neuadd Bentref Little Mill, Pont-y-pŵl; yn Sir Gaernarfon ar nos Lun 12 Medi i ddechrau am 7.30yh yn y brif ystafell ddarlithio yng Ngholeg Glynllifon ac yn Ynys Môn ar nos Fawrth Medi 13 i ddechrau am 7.30yh yn Nhafarn y Rhos, Rhostrehwfa, Llangefni. “Mae angen trafod dyfodol nifer


o bynciau pwysig megis cymorth ariannol, cytundebau masnach a newid deddfwriaethol ac felly rydym yn annog ein haelodau i nodi blaenoriaethau’r polisïau hynny, a fydd yn help i ddatblygu sector amaethyddol Cymreig proffidiol a chynaliadwy, sy’n gallu gwrthsefyll yr ansefydlogrwydd cynyddol ym


Mae’n rhaid i ni nodi cyfleoedd


mhrisiau,” meddai Llywydd UAC Glyn Roberts. Mae UAC yn gweithio’n agos


gyda’i aelodaeth drwy ymgynghori, er mwyn sicrhau bod safbwyntiau polisïau’r dyfodol yn cael cefnogaeth y sector amaethyddol yng Nghymru a bod y polisïau yma’n cyflawni anghenion y diwydiant. Mae’r ymgynghoriad a’r holiadur


ar-lein wedi cael eu cynllunio i roi cyfle i bob aelod o’r Undeb roi sylwadau ar rai o’r prif faterion sy’n ymwneud â’r mathau o bolisïau amaethyddol a allai fod o’r budd gorau i Gymru ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewr opeaidd. Hefyd, mae lle ar yr arolwg ar


gyfer sylwadau unigol ar sut neu a ddylai amaethyddiaeth Cymru a’n cymunedau gwledig newid mewn ffordd sy’n gwella ein cynaliadwyedd ariannol, amgylcheddol a diwylliannol. “Mae UAC yn parhau i fod mewn


cysylltiad rheolaidd â Gweinidogion Cymru a’r DU a gweision sifil ac mae bellach yn bwysig ein bod yn nodi’r cyfleoedd posib ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn dilyn Brexit. Byddwn yn trafod canlyniad yr ymgynghoriad mewnol a’r arolwg ar-lein yn ein cyfarfod nesaf o’r Prif Gyngor ar ddiwedd y mis ac yna byddwn yn trosglwyddo ein hargymhellion i’r Llywodraeth,” ychwanegodd Glyn Roberts.


ymateb gyda’i gilydd i’r hyn sydd wedi digwydd.”


Perthynas Cymru ac Ewrop “Mae gan ein henwadau ni


a Christnogion yng Nghymru yn gyffredinol berthynas agos â nifer o unigolion a hefyd eglwysig mewn gwledydd eraill ar draws Ewrop,” ychwanegodd Dr Noel Davies. “Gyda chymaint o ffoaduriaid yn dod i’r gwledydd yma, mae’r cyfrifoldeb cymdeithasol, Cristnogol ni a’r awydd am sicrhau cyfiawnder i bobol sy’n dod yma i geisio lloches yn dyngedfennol bwysig, ac fe wnaethon ni feddwl bod y materion yma o bwys arbennig.” “Tuedd yr Eglwysi oedd ein


Dr Noel Davies: Mae'n rhaid i Cristnogion sicrhau cyfiawnder i ffoaduriaid (Llun. Alun Lenny)


MAE CYNGHRAIR o enwadau


Cristnogol Cymru wedi llunio rhestr fanwl o fesurau economaidd a hawliau dynol i’w trafod yn ystod y broses o adael y Gymuned Ewropeaidd. Mae'r ymgyrch – a ysgogwyd gan


Undeb yr Annibynwyr Cymraeg – wedi dod â’r prif enwadau at ei gilydd i gyflwyno persbectif Cristnogol ar faterion craidd allai effeithio ar gymdeithas yn ystod ac ar ôl Brexit. Mewn cyflwyniad i'r Pwyllgor


Materion Cymreig, mae’r eglwysi yn nodi materion polisi allweddol, gan gynnwys hawliau cymunedau lleiafrifol ac ieithyddol, amaethyddiaeth a'r amgylchedd, a'r berthynas yn y dyfodol gyda chenhedloedd a gwladwriaethau eraill. “Rydyn ni’n meddwl bod y bleidlais


yn mynd i newid natur ein cymdeithas yn sylfaenol, ac mae perthynas ni ag Ewrop fel gwledydd yn mynd i fod yn dyngedfennol,” meddai Dr Noel Davies o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. “Roedden ni’n teimlo ei bod hi’n


bwysig bod yr eglwysi fel cyrff sydd â chonsyrn am natur ein cymdeithas ni yn


bod ni’n bleidiol i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond mae’r refferendwm wedi penderfynu’n wahanol, ac mae’n rhaid i ni fyw â’r canlyniad hynny, felly rydyn ni’n credu bod trio cael barn glir, gyhoeddus ar y materion yma yn bwysig.” Rhai o’r prif bwyntiau: Hawliau a chyfleoedd • Cynnig sicrwydd buan i ddinasyddion yr UE sydd â’u statws yn ansicr ar hyn o bryd.


• Diogelu statws a hawliau pobl fregus ac anabl, yr henoed a phlant.


• Sicrhau fod gan bobl ifanc gyfleoedd addysgol a chyflogaeth priodol yn ystod y cyfnod o ansicrwydd economaidd cynyddol sydd o’n blaen, gan gynnwys parhau i gyfranogi mewn rhaglenni megis Horizon 2000.


• Bod yn groesawgar tuag at y bobl ddieithr a thlawd yn ein plith, gan gynnwys parhau i gyfranogi yn rhaglenni’r UE a rhaglenni ar draws Ewrop i ailsefydlu ffoaduriaid.


• Diogelu hawliau unigolion a gweithwyr, gan sicrhau bod hawliau sydd wedi eu gwarantu gan yr UE wedi eu cynnwys yng nghyfraith y DG/y gyfraith Gymreig. Cymunedau lleiafrifol


27 Newyddion Eglwysi Cymru’n uno i warchod hawliau economaidd a dynol


• Dylai Llywodraeth EM a Llywodraeth Cymru barhau i ddiogelu hawliau Cymunedau lleiafrifol, yn arbennig y rheini sy’n teimlo dan fygythiad o ganlyniad i droseddau casineb a chamdriniaeth.


• Dylai’r ddwy lywodraeth warantu, drwy ddeddfwriaeth briodol a chyllid digonol, fod ieithoedd lleiafrifol megis, ond nid yn unig, y Gymraeg, yn cael eu meithrin a’u hyrwyddo. Gan y bydd y Gymraeg yn colli ei statws cyd-swyddogol ar lefel yr UE pan fyddwn yn gadael yr UE, credwn y dylid sicrhau statws gyffelyb i’r Gymraeg (a Gaeleg yr Alban a Gaeleg Iwerddon) ar lefel y DG.


Amaethyddiaeth a’r amgylchedd • Credwn y dylid, naill ai drwy barhau aelodaeth o’r EEA neu/a EFTA neu drwy eu hymgorffori yn neddfwriaeth y DG a Chymru, warchod polisïau a chyllid a anelir at ddiogelu’r amgylchedd, delio â newid hinsawdd a gwrthweithio’u heffeithiau ar fioamrywiaeth.


• Rydym yn cydnabod fod yr ansicrwydd presennol yn heriol i amaethyddiaeth yng Nghymru. Felly, anogwn y ddwy lywodraeth i sicrhau trosglwyddiad o’r Rhaglen Amaethyddol Gyffredin (CAP) na fydd yn fygythiad i ddyfodol bywoliaethau amaethyddol, yn arbennig felly mewn ffermydd teuluol bychain a chanolig (yn cynnwys ffermydd mynyddig), sy’n hanfodol i economi a diwylliant y Gymru wledig.


“Gadael yr Undeb Ewropeaidd ydyn


ni wedi penderfynu gwneud, nid gadael Ewrop, ry’n ni’n dal i fod yn rhan o’r cyfandir, ry’n ni’n dal i fod yn rhan o deulu o genhedloedd Ewropeaidd ac mae Cymru’n dal i fod yn wlad Ewropeaidd. “Mae meithrin y berthynas honno


yn mynd i fod yn dyngedfennol bwysig i ni.”


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28  |  Page 29  |  Page 30  |  Page 31  |  Page 32  |  Page 33  |  Page 34  |  Page 35  |  Page 36  |  Page 37  |  Page 38  |  Page 39  |  Page 40  |  Page 41  |  Page 42  |  Page 43  |  Page 44  |  Page 45  |  Page 46  |  Page 47  |  Page 48  |  Page 49  |  Page 50  |  Page 51  |  Page 52  |  Page 53  |  Page 54  |  Page 55  |  Page 56