This page contains a Flash digital edition of a book.
28 Newyddion Golygfa unigryw Cymru Aerofilms: 1919-2006


• Awyrluniau Fertigol yr Awyrlu Brenhinol – tynnwyd ar wahanol uchderau: 1940- 1965


• Awyrluniau Arosgo Lefel-isel yr Awyrlu Brenhinol: 1940- 1965


• Casgliad y Llu Awyr Brenhinol, Medmenham – fertigol ac arosgo: c.1939- 1945


• Casgliad Awyrluniau


Prifysgol Caergrawnt – delweddau lefel-isel sy’n cofnodi, yn anhygoel o fanwl, nodweddion archaeolegol yn y dirwedd: diwedd y 1950au hyd ddechrau’r 1960au


FEL RHAN o’i ymrwymiad


parhaus i wella darpariaeth gwasanaeth i gwsmeriaid y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru (CBHC) wedi cyhoeddi fod Medwyn Parry, ei arbenigwr ffotograffig o’r awyr, fydd ar gael yn yr Ystafell Chwilio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar fore Gwener 9.30-13.00. Ceir yn archif y Comisiwn Brenhinol y casgliad mwyaf o


awyrluniau yng Nghymru, yn dyddio o 1918 hyd heddiw. Maen nhw’n cynnwys delweddau fertigol a dynnwyd ar gryn uchder a delweddau arosgo lefel-isel, ac maen nhw’n dangos yn glir i ni sut mae’r dirwedd wledig a threfol wedi newid dros amser.


DYMA RAI O’R CASGLIADAU: • Awyrluniau Arosgo Lefel-isel


• Awyrluniau Fertigol yr Arolwg Ordnans: 1962-2009


• Awyrluniau Arosgo Lefel- isel CBHC – tynnwyd gan ein ffotograffydd ni: 1986 – heddiw


• Os hoffech geisio cyngor ar ddefnyddio awyrluniau – ar gyfer ymchwil personol neu gyhoeddiad


academaidd,


neu at ddibenion busnes/ masnachol – mae croeso i chi alw heibio a chael gair â Medwyn ar fore Gwener.


YN YSTOD 2015/2016


ailgylchodd Ceredigion fwy o wastraff nag erioed o’r blaen. 58% oedd targed Llywodraeth


Cymru ar gyfer y 12 mis hyd ddiwedd mis Mawrth 2016. Llwyddodd Cymru gyfan i ailgylchu 60%, ond Ceredigion a ddaeth i’r brig gyda ffigur gwych o 68% (2% yn unig o dan darged 2025). Esboniodd Huw Morgan,


Cyfarwyddwr Strategol y Cymunedau Cynaliadwy fod yna nifer o resymau dros berfformiad mor wych. Un ohonynt yw parodrwydd y trigolion i gymryd rhan yn y gwasanaeth ailgylchu y mae’r Cyngor Sir yn ei ddarparu. Mae Ceredigion yn darparu sachau plastig clir ar gyfer ailgylchu amrywiaeth fawr o ddeunyddiau. “Mae’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu yn hawdd i’w ddefnyddio ac mae’n boblogaidd gan y trigolion. Mae ein data’n awgrymu bod 98% o’r tai sydd yng Ngheredigion yn cymryd rhan yn y gwasanaeth ailgylchu o leiaf rhan o’r amser, sy’n dipyn o gamp” meddai.. Rheswm arall sydd wedi helpu


Ceredigion wneud hyn yw’r newid yn y ffordd y mae’r Cyngor yn delio â gwastraff gweddillol (y sachau duon) ar ôl eu casglu o dai pobol. Yn y gorffennol roedd y gwastraff gweddillol yn cael ei ddanfon at safleoedd tirlenwi. Yn ddiweddar mae Ceredigion wedi bod yn cydweithio â Chyngor Sir Benfro, ac erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’r gwastraff gweddillol yn cael ei ddanfon at orsaf bŵer yn Sweden. Yn yr orsaf bŵer, mae’r gwastraff gweddillol yn cael ei losgi er mwyn cynhyrchu gwres a thrydan. Mae’r lludw sy’n cael ei gynhyrchu yn sgil y broses yn cael ei ailgylchu ac mae hynny wedi ychwanegu at berfformiad ailgylchu Ceredigion. Nid oes nwyon gwenwynig yn cael eu rhyddhau i’r awyr yn y broses yma, ac mae’r orsaf bŵer yn un o’r rhai mwyaf effeithlon yn Ewrop gyfan; mae delio â’r gwastraff na ellir ei ailgylchu trwy’r dull yma’n well i’r amgylchedd na thirlenwi. Mae’r Cyngor hyd yn oed yn


ailgylchu’r ysgubiadau y mae’n eu casglu yn ymyl y ffordd ac mae hynny wedi gwella perfformiad Cyngor Sir Ceredigion lle mae ailgylchu yn y cwestiwn yn ddirfawr yn ystod


2015/2016. Nid yn unig mae’r hyn sydd


wedi ei gyflawni’n dda i’r Sir, mae hefyd yn llesol i’r blaned gyfan. Mae ailgylchu’n lleihau allyriadau’r nwyon tŷ gwydr oherwydd mae’n golygu nad yw’r gwastraff yn pydru mewn safleoedd tirlenwi nac yn cael ei losgi mewn llosgwr - mae hefyd yn lleihau’r angen i gloddio am y deunyddiau crai o grombil y ddaear a’r holl ynni sydd ei angen i wneud hynny. Cyhoeddwyd bod Cyngor Sir Ceredigion wedi cyrraedd y brig yn y Mynegai Ailgylchu Carbon blynyddol. Mae tabl y cynghrair, sy’n cael ei baratoi gan gwmni Ymchwil ac Ymgynghori Eunomia, yn cyfrifo cyfanswm yr allyriannau carbon deuocsid sydd wedi eu harbed o ganlyniad i ymdrechion y trigolion lleol i ailgylchu. Arbedodd gwasanaeth ailgylchu’r


cyngor 104kg o Garbon Deuocsid i bob person yn yr ardal, a dyma’r gwasanaeth mwyaf effeithiol o ran lleihau allyriadau carbon trwy Gymru gyfan - er ei bod yn gystadleuaeth glos iawn ac enillwyr llynedd, Powys, yn dynn ar ein sodlau, gydag 1kg y person yn llai. Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, yr aelod portffolio ar gyfer Gwastraff: “Rydym yn falch iawn o’r hyn y mae’r trigolion lleol wedi ein helpu ni gyflawni, ac mae’n wych bod ar y brig ar gyfer ailgylchu a’r Mynegai Carbon. Mae’r canlyniad yn dangos bod ymroddiad y trigolion ddidoli eu sbwriel yn talu ei ffordd o ran arbed carbon”. Ond nid yw’r Cyngor yn gorffwys


ar ei fri. Esboniodd Huw Morgan: “Roedd perfformiad llynedd yn wych ond nid da lle gellir gwell. Fel Cyngor bach gwledig, rydym weithiau yn ei chael hi’n anodd darparu’r gwasanaethau y mae’r trigolion yn eu disgwyl ac yn eu haeddu. Rydym yn gweithio’n galed i wella’r gwasanaeth gwastraff ac i wneud hynny bydd angen ymdrech ar ran y staff, y contractwyr a’r trigolion fel ei gilydd. Bydd angen inni fod yn fwy hyblyg yn y dyfodol er mwyn gwneud yn fawr o’r adnoddau sydd gennym. Rydym yn chwilio am gyfleoedd newydd i ailgylchu mwy ac i leihau’r costau ar bob adeg. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n wedi ein helpu ni gyrraedd y brig ac i barhau â’r gwaith da fel y bydd modd i ni ailgylchu mwy byth y flwyddyn yma”.


THE HERALD FRIDAY SEPTEMBER 02 2016


Follow us on Twitter @ceredigherald


Cyngor Sir Ceredigion yn ôl ar y brig ar gyfer ailgylchu a charbon


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28  |  Page 29  |  Page 30  |  Page 31  |  Page 32  |  Page 33  |  Page 34  |  Page 35  |  Page 36  |  Page 37  |  Page 38  |  Page 39  |  Page 40  |  Page 41  |  Page 42  |  Page 43  |  Page 44  |  Page 45  |  Page 46  |  Page 47  |  Page 48  |  Page 49  |  Page 50  |  Page 51  |  Page 52  |  Page 53  |  Page 54  |  Page 55  |  Page 56