This page contains a Flash digital edition of a book.
THE HERALD FRIDAY SEPTEMBER 02 2016


Like us on Facebook facebook.com/ceredigionherald


27 Newyddion Cantores yn ‘class act’ yn Llais Llwyfan Llanbed Cynhaliwyd y rhagbrawf yn


y prynhawn a dewiswyd pump o gantorion i ganu yn yr hwyr. Y beirniaid eleni oedd Brian


DAETH cynulleidfa deilwng


ynghyd i neuadd Ysgol Bro Pedr nos Sul, Awst 28ain ar gyfer rownd derfynol Llais Llwyfan Llanbed


2016, cystadleuaeth i gantorion ifanc dan 30 oed sy’n rhan o benwythnos Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen.


Ar y dibyn? MAE GLÖYN BYW, Britheg


y Gors, a oedd cynt i’w gweld mewn llawer man yn Ewrop, wedi dirywio’n enfawr yn y ganrif ddiwethaf. Colli cynefin yw prif achos y


dirywiad. Fe ddiflannodd Britheg y Gors o 60 y cant o’i gynefinoedd blaenorol yn y DU yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn


gwneud pob ymdrech i roi help llaw i’r rhywogaeth yn un o’r cadarnleoedd sydd ar ôl - de a gorllewin Cymru. Fe ganolbwyntir y gwaith cadwraeth ar gynnal poblogaethau presennol drwy ofalu ar ôl cynefinoedd maent yn dibynnu arnynt - glaswelltir gwlyb neu borfeydd rhos fel y’i gelwir. Gan fod Britheg y Gors yn byw


mewn grwpiau o gytrefi cysylltiol, gall dirywiad neu golli cynefin effeithio’n sylweddol ar eu goroesiad tymor hir. Mae ail-gytrefu yn llai tebygol pan mae clytiau cynefin yn fwy ynysig. Felly cysylltedd yw hanfod y peth. Er enghraifft….ar un adeg gellid


dod o hyd i Fritheg y Gors ar draws Ceredigion, ond mae’r rhywogaeth bellach wedi diflannu mewn llawer o ardaloedd lle’r oedd yna gynefinoedd yn y gorffennol. Er mai digon bychain yw’r darnau o gynefin addas ar gyfer y Fritheg y Gors sydd ar ôl yn y sir maent, ar y cyfan, mewn cyflwr da. Ac, mae’r pellter rhwng cynefinoedd yn eithaf bach, sy’n helpu unigolion i symud rhwng poblogaethau, gan gynyddu’r siawns o oroesi yn y tymor hir.


Mae Ardal Cadwraeth Arbennig


(ACA), Rhos Talglas ynghyd â ACA Rhos Llawr Cwrt yng Ngheredigion


yn cynnal un o’r poblogaethau mwyaf pwysig yn genedlaethol o loÿnnod byw sy’n weddill. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru cytundebau gyda pherchnogion tir i sicrhau’r rheolaeth gorau posibl . Fe borir y tir gan ferlod mynydd


Cymreig ac fe dorri’r glaswellt yr ardal eang o ddol Molinia yn y gaeaf er mwyn helpu sefydlu twf newydd, ac i annog merlod i bori. Un o’r prif amcanion yw hybu tyfiant Tamaid y Cythraul, prif blanhigyn bwyd y glöyn byw. Mae cynlluniau ar gyfer y safle yn y dyfodol yn cynnwys cael gwared ar gonwydd a rhywogaethau ymledol eraill i atal colli cynefinoedd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru


yn gweithio ar brosiectau tebyg ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig eraill yng Ngheredigion a rhannau eraill o Gymru. Ond hefyd mae angen i’r cynefin tu allan i’r safleoedd gwarchodedig hyn cael eu cynnal er mwyn diogelu un o brif gadarnleoedd Britheg y Gors yn Ewrop. Heb y camau cadwraeth pwrpasol


hyn, byddai poblogaethau Britheg y Gors yn ôl pob tebyg yn dirywio o ganlyniad i golli cynefin ac fe allai ddiflannu o orllewin Cymru mewn ychydig o ddegawdau. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i weithio gyda thirfeddianwyr ac eraill i warchod y cynefin a sicrhau goroesiad y glöyn byw hwn yn y tymor hir. Gallwch ddysgu mwy am Fritheg


y Gors a phrosiectau cadwraethol eraill drwy ymweld â gwefannau cyfoethnaturiol.cymru neu butterfly- organisation.org.


Hughes, cyfansoddwr poblogaidd ac athro canu llwyddiannus o Rosllannerchrugog, (a fu hefyd yn beirniadu yn 2007 pan gipiodd y soprano o Fethania, Gwawr Edwards y wobr), a Iona Jones Caerdydd, athrawes llais ac enillydd Gwobr Goffa David Ellis yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000. Bu hithau hefyd yn beirniadu’r gystadleuaeth yn y gorffennol a hynny yn 2011 pan gipiwyd y wobr gan Mari Wyn Williams, Llanberis. Dwy soprano yn dod i’r brig gyda’r beirniad yn 2007 a 2011 – oedd hynny’n awgrymu rhywbeth am 2016? Sefydlwyd y gystadleuaeth yma


yn 1993 a’r enillydd y flwyddyn honno oedd y tenor o Bencader, Aled Hall. Mae Aled erbyn hyn yn enw cyfarwydd a phoblogaidd ar lwyfannau opera Prydain gan cynnwys cyfnodau yn CoventGarden gyda’r Cwmni Opera Brenhinol, Opera Cenedlaethol Cymru, Opera Holland Park ac Opera North eleni. Bu Jeannette Massochi yn cyfeilio i’r gystadleuaeth o’r flwyddyn gyntaf hynny ac unwaith eto eleni disgrifiwyd ei chyfraniad i lwyddiant y gystadleuaeth fel un hollol amhrisiadwy. Yn unol â gofynion y gystadleuaeth


roedd angen i’r cantorion berfformio rhaglen amrywiol heb fod yn hwy na 20 munud gan gynnwys un gân gan gyfansoddwr Cymreig i’w chanu yn Gymraeg. Elen Roberts o Lithfaen agorodd


y cystadlu. Ar ôl gadael Ysgol Glan y Môr, Pwllheli aeth Elen ymlaen i astudiocerddoriaeth ym Mhrifysgol Durham gan raddio llynedd. Bydd yn cychwyn ar gwrs ôl radd yn


yr Academi Gerdd Brenhinol yn Llundain fis nesaf. Ffion Haf o Dryslwyn ger


Llandeilo a chyfreithwraig yn Abertawe, ddaeth i’r llwyfan nesaf. Mae Ffion yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan Eisteddfod Llanbed a hi gipiodd y Rhuban Glas i gantorion dros 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod llynedd. Ar twitter, fel ‘Cymro balch o


Sir Gâr’ mae’r tenor o Gaerfyrddin, Gethin Lewis, yr unig bachgen yn y gystadleuaeth, yn disgrifio’i hunan. Pan yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, profodd Gethin tipyn o lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd ac ar ôl gadael yr ysgol aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Cerddoriaeth a Drama’r Guildhall yn Llundain. Yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni ddechrau’r mis enillodd Gethin Ysgoloriaeth Goffa David Lloyd i’r tenor mwyaf disglair yn y cystadlaethau lleisiol dan 25 oed. Soprano o Geredigion oedd y nesaf


i gystadlu, er bod Catrin Woodruff, sy’n wreiddiol o Lanrhystud ac yn gynddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig, yn byw yn Sussex erbyn hyn. Astudiodd Catrin gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caer Efrog cyn symud ymlaen i’r Coleg Cerddoriaeth Brenhinol ym Manceinion gan ennill gradd Meistr ddwy flynedd yn ôl. Fel i Gethin, bu Eisteddfod


Genedlaethol y Fenni yn un llwyddiannus i unawdydd olaf y noson hefyd, sef Heulen Cynfal o’r Parc ger Y Bala, lle’r enillodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth yr unawd soprano dan 25 oed. Yn gyn-ddisgybl o Ysgol y Berwyn ac Ysgol Gerddoriaeth Cheetham’s, Manceinion, aeth Heulen ymlaen i astudio cerddoriaeth yn yr Academi Gerddoriaeth Brenhinol yn Llundain lle mae erbyn hyn yn dilyn cwrs


Meistr ôl radd. Wedi dwy awr o gystadlu brwd


ac egwyl fer er mwyn i’r beirniaid gael cyfle i drafod daeth y ddau yn ôl i’r neuadd i draddodi’r feirniadaeth. Canmolwyd lleisiau rhagorol y cantorion, eu techneg, y rhaglenni amrywiol a’u gallu i ganu mewn amrywiol arddulliau a ieithoedd. Yn ei sylwadau fe wnaeth Brian Hughes hefyd longyfarch pwyllgor yr eisteddfod am barhau i gynnal y gystadleuaeth, un yn ei eiriau ef “sy’n bwysig iawn i’r cantorion ifanc ac yn un y mae nifer o gantorion yn anelu i’w ennill oherwydd ei statws uchel”. Yn dilyn hyn cyhoeddwyd y


canlyniad fel hyn – • 1af Catrin Woodruff (yn ennill £1000 yn rhoddedig gan


Ymddiriedolaeth


Pantyfedwen a Thlws gwydr hardd yn rhoddedig gan Yr Athro Densil a Mrs Ann Morgan)


• 2il Gethin Lewis (£500 Cyngor Sir Ceredigion)


• 3ydd Heulen Cynfal (£300 Cyngor Tref Llanbed’)


• 4ydd Elen Roberts (£200 Las Recycling Ltd/LAS PropertyWales)


• 5ed Ffion Haf (£100 Cyfri Cyf, Llanbed’)


Yn ystod y noson hefyd


cyhoeddodd Twynog Davies (Cadeirydd Pwyllgor Cerddoriaeth yr Eisteddfod) mai Godfrey Williams, Froncysyllte oedd wedi dod i’r brig eleni am gyfansoddi tôn i emyn Dai Rees Davies, ‘Estyn Llaw’, a chafwyd perfformiad o’r emyn-dôn fuddugol gan Lowri Elen gyda Delyth Medi yn cyfeilio iddi. Rydych yn gallu i ddarllen mwy


am y newyddion sy’n bwysig i chi yn y rhifyn diweddaraf o Clonc, sydd ar werth nawr.


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28  |  Page 29  |  Page 30  |  Page 31  |  Page 32  |  Page 33  |  Page 34  |  Page 35  |  Page 36  |  Page 37  |  Page 38  |  Page 39  |  Page 40  |  Page 41  |  Page 42  |  Page 43  |  Page 44  |  Page 45  |  Page 46  |  Page 47  |  Page 48  |  Page 49  |  Page 50  |  Page 51  |  Page 52  |  Page 53  |  Page 54  |  Page 55  |  Page 56