This page contains a Flash digital edition of a book.
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 12 MAWRTH - EBRILL 2013


Argraffwyd Newyddion Sir Gâr ar bapur ailgylchus Newyddion Sir Gâr


Casglu sbwriel


dros y Pasg Tud 9


Cynnig beicio i


ddarllenwyr Tud 15


Swyddi Sir Gar Tud 11


Marchnadoedd yn dathlu Dydd Gwˆ yl Dewi


Cafodd ymwelwyr â marchnadoedd Llanelli a Chaerfyrddin fwynhau gwledd o gynnyrch ac adloniant Cymreig ar Ddydd Gŵyl Dewi. Bu bron 100 o blant o ysgolion Bigyn


a Ffwrnes yn difyrru siopwyr ym Marchnad Llanelli drwy ganu yn eu gwisgoedd Cymreig traddodiadol. Yng Nghaerfyrddin, cafodd pobl gyfle i flasu Cawl cartref o’r caffis yn y farchnad, a hefyd dosbarthwyd cardiau rysait ‘Cawl Marchnad Caerfyrddin’, yn hysbysebu ble gellid prynu’r cynnyrch. Cafwyd rhagor o ddathlu ym marchnad Caerfyrddin ar y dydd Sadwrn, gydag arddangosiadau cerfio llwyau caru. Mae’r digwyddiadau’n rhan o raglen o weithgareddau a gynhelir yn y marchnadoedd ar hyd y flwyddyn. Ewch i www.carmarthenshiremarkets.co.uk


Marchnad Ffermwyr newydd


Mae Marchnad Ffermwyr newydd yn dod i Gaerfyrddin o 5 Ebrill, gyda mwy o stondinau ac amrywiaeth i siopwyr. Fe fydd mewn man newydd, y tu


ôl i Dŵr y Cloc, yn ymyl Marchnad Caerfyrddin, a bydd cerbydau amaethyddol yn rhes ar hyd y ffordd. Rydym wrthi nawr yn chwilio am rai o’r cynhyrchwyr a’r crefftwyr gorau i fasnachu yno, ac fel rhan o gyfnod prawf o dri mis, byddant yn cael cyfle i roi cynnig ar fasnachu AM DDIM. Meddai Eifion Evans, Rheolwr Marchnad Caerfyrddin:


gwneud rhywbeth â chynhwysion lleol, efallai bod lle yma i chi. Mae llawer o fanteision yn deillio o siopa mewn Marchnadoedd Ffermwyr: prynu bwyd ffres, blasus;


lleihau llygredd y


‘milltiroedd bwyd’, a chyfyngu ar y pecynnu gwastraffus; helpu ffermwyr a chynhyrchwyr lleol i gynnal eu busnes ac ennill bywoliaeth a helpu i greu canol tref sy’n fwy bywiog.” Bydd y Farchnad newydd yn


“Os ydych yn tyfu rhywbeth neu’n


masnachu ochr yn ochr â’r Farchnad Ffermwyr wythnosol sydd eisoes yn cael ei chynnal bob dydd Gwener ar Heol Goch. Mae


bwriad i roi cynnig ar farchnad debyg yn Llanelli yn yr haf. Meddai’r Cyng. Jeff Edmunds,


Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau: “Mae prynu’n lleol ac yn uniongyrchol oddi wrth ffermwyr a chynhyrchwyr lleol yn golygu y gallwch sicrhau eich bod yn prynu cynnyrch ansawdd uchel, y gellir olrhain ei hynt. Bydd y stondinwyr yn gwybod popeth am eu cynnyrch – o’r fferm i’r fforc. Gall y prynwr ofyn cwestiynau am y cynnyrch mae’n ei brynu neu mae’n ystyried ei brynu, a bydd gan y stondinwyr yr atebion i gyd, oherwydd mai nhw


sydd wedi cynhyrchu’r hyn sydd ar werth.” Os ydych yn gynhyrchydd bwyd lleol, mae croeso i chi gysylltu i gael gwybod sut gallwch chi fod yn rhan o hyn. Mae meini prawf cymhwysedd manwl cyn bod modd cymeradwyo cais. I gael rhagor o wybodaeth neu i dderbyn ffurflen gais, cysylltwch ag Eifion Evans, Rheolwr Marchnad Caerfyrddin, drwy ffonio 01267 228 841 neu drwy e-bostio EEvans@sirgar.gov.uk


Bwrdd Gwasanaeth Lleol Sir Gâr Carmarthenshire Local Service Board


TÂN: Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn recriwtio diffoddwyr tân ar alwad ledled Sir Gaerfyrddin, yn enwedig yn Llandeilo. Tud. 7


COLEG SIR GAR: Mae tîm rygbi dynion Coleg Sir Gâr wedi ennill gwobr Tîm Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Sir Gaerfyrddin. Tud. 2


CAVS: Gall plant chwarae cymaint ag y dymunant drwy brosiect Llwybrau Porffor, gyda chefnogaeth Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr. Tud. 7


Y DRINDOD DEWI SANT: Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig ystod o raglenni gradd newydd i is-raddedigion yn y Dyniaethau ar gampws Llambed o fis Medi ymlaen. Tud. 12


Y CYNGOR:Mae cynllun llwybrau cerdded a beicio diogel o amgylch Pen-bre, sy'n costio £558,000, ar fin cael ei gwblhau. Tud. 16


HEDDLU: Nod Heddlu Dyfed- Powys yw lansio cynllun Gwarchod Cymdogaeth newydd yn ardal Sanclêr. Tud. 18


IECHYD:Mae adnodd ar-lein newydd - Tŷ Hywel - wedi cael ei lansio i helpu pobl ifanc i fyw bywydau mwy iach. Tud. 14


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22