This book includes a plain text version that is designed for high accessibility. To use this version please follow this link.
08


Cynhadledd Cynhwysiad Digidol Cymru: Adroddiad Cynhadledd 2008


Sharon Morris Prosiect Radio Gymunedol Rhondda Cynon Taf


Clywodd y gynhadledd anerchiad gan ddau o bobl sydd wedi ymwneud yn helaeth â phrosiectau Cymunedau @Ei Gilydd, sef Sharon Morris, sy’n fuddiolwr gyda phrosiect Radio Gymunedol Rhondda Cynon Taf (RhCT), a Stephen Harmes, sy’n cydlynu prosiect TGCh Eglwys Gymunedol Afon Dyfrdwy.


Soniodd Sharon, a ddaeth i’r llwyfan gyntaf, am ei


gweddnewidiad o fod yn rhywun oedd ag ofn technoleg i fod yn wirfoddolwr TG brwd. Dyma grynodeb o’i chyflwyniad:


Mae Sharon, a ddefnyddiodd TG am y tro cyntaf pan oedd yn 50 oed, wastad wedi byw yn Nhreherbert yn y Rhondda. Esboniodd bod ei hwyres 11 oed yn ‘ddewin ar y cyfrifiadur’, ac


byddai’n rhaid iddi ddefnyddio cyfrifiadur i gyflawni tasgau gweinyddol yn Radio CwmNi, ofnai Sharon na allai wneud hynny. Er gwaethaf ei phryderon, cofrestrodd Sharon i dderbyn hyfforddiant anffurfiol mewn rhaglenni Microsoft


>Helpu pobl eraill fel hi i ddysgu sgiliau newydd, tra’n cynyddu eu hyder a’u hunan-barch yr un pryd


roedd hyn yn destun embaras mawr i Sharon gan na allai ddeall y pethau y gallai ei hwyres eu gwneud ar y cyfrifiadur.


Taniwyd diddordeb Sharon mewn gwirfoddoli gyda’i gorsaf radio gymunedol leol (Radio CwmNi – rhan o brosiect a ariannwyd gan Gymunedau @Ei Gilydd). Dywedodd “gan fod yr ardal wedi colli cymaint yn y blynyddoedd diwethaf, roedd y radio’n hwb gwirioneddol i’r gymuned.” Fodd bynnag, pan ddywedwyd wrthi y


Office, e-bost a defnyddio’r we. Mentor a oedd yn ymwneud â’r prosiect oedd yn ei hyfforddi.


Byddai ond anfon a derbyn neges e-bost yn golygu’r byd i Sharon. Roedd anfon ‘atodiadau’ yn destun dryswch pellach, a gofynnai iddi hi ei hun “pwy sydd eisiau clicio ar glip papur?”.


Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, yr oedd Sharon wedi llamu yn ei blaen ac yr oedd yn helpu Andrew Jones, cydlynydd prosiect Radio


Gymunedol RhCT. Roedd ei rôl yn cynnwys recriwtio gwirfoddolwyr i'r tair gorsaf yn Nhreherbert, Penrhys a Phenywaun, yn ogystal â rhoi cefnogaeth weinyddol, ymchwilio ar y we a gwaith yn y stiwdio gyda chyflwynwyr a chyfranwyr gwirfoddol.


Mae Sharon yn cydnabod yn agored bod ei siwrnai i fyd TGCh wedi cael effaith aruthrol ar ei bywyd, ac mae’n gwybod bod y prosiect radio gymunedol wedi helpu pobl eraill fel hi i ddysgu sgiliau newydd, tra’n cynyddu eu hyder a’u hunan-barch yr un pryd.


Crynhodd Sharon ei phrofiad drwy ddweud bod y prosiect radio wedi “creu rhywfaint o ymdeimlad o gymuned unwaith yn rhagor rhwng ein cymoedd.” I bawb a glywodd anerchiad Sharon, yr oedd yn amlwg bod y prosiect radio, nid yn unig yn cael effaith aruthrol ar y gymuned yn ei chyfanrwydd ond ei bod hefyd yn cael effaith aruthrol ar fywydau’r bobl a oedd yn cyfrannu.


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28  |  Page 29  |  Page 30  |  Page 31  |  Page 32  |  Page 33  |  Page 34  |  Page 35  |  Page 36  |  Page 37  |  Page 38  |  Page 39  |  Page 40  |  Page 41  |  Page 42  |  Page 43  |  Page 44  |  Page 45  |  Page 46  |  Page 47  |  Page 48  |  Page 49  |  Page 50  |  Page 51  |  Page 52  |  Page 53  |  Page 54  |  Page 55  |  Page 56  |  Page 57  |  Page 58  |  Page 59  |  Page 60  |  Page 61