This book includes a plain text version that is designed for high accessibility. To use this version please follow this link.
Cymru Athrawon


Gan yr NUT ar gyfer holl athrawon Cymru


Rhifyn 41 Tymor y Gwanwyn 2012






Yr NUT yn ennill adolygiad cynlluniau asesu


Cytunodd Leighton Andrews, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, i adolygu’r Cynlluniau Asesu Datblygiad Plentyn (CDAP) yn dilyn pwysau gan NUT Cymru.


Uwcholeuodd yr Undeb fethiannau’r system, gan nodi eu pryderon gydag Aelodau’r Cynulliad a thynnu sylw’r wasg Gymreig.


Peilotwyd y cynlluniau gan ysgol aelod gweithredol yr NUT, Beth Davies, yn ysgol Alltwen yng Nghastell Nedd Port Talbot. Arweiniodd aelodau’r NUT yn yr ysgol yr ymgyrch am newidiadau.


Roedd Beth wrth ei bodd bod y Gweinidog Addysg wedi derbyn yr anfodlonrwydd a leisiwyd gan y proffesiwn addysgu.


Dywedodd “Bu’r cynllun yn drychineb i ysgolion, gan arwain at nifer o achosion ble nad oedd modd i athrawon addysgu plant gan eu bod yn boddi mewn môr o waith papur”.


“Mae’n annerbyniol gofyn i athrawon i asesu sgiliau rhianta yn y dull hwn, tra’n anwybyddu’r angen i sefydlu perthynas gyda disgyblion sy’n dechrau yn ein hysgolion.” Ychwanegodd, heb newidiadau mawr, y byddai’r cynllun yn cael ei ddileu.


Canmolodd Owen Hathway, Swyddog Polisi NUT Cymru, waith athrawon ysgol Alltwen trwy achosi ail feddwl. Dywedodd “Bu llawer o ddicter yngly


^n â’r cynllun gan athrawon a newyddion da yw bod y Gweinidog wedi gwrando a chychwyn adolygiad”.


 


Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth


Mae’r elusen Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth (SRtRC) yn cynnal y 12fed cystadleuaeth gwrth hiliaeth i ysgolion. Gallwch ymgeisio mewn amrywiol gategori.


Llynedd, roedd dros 100 o ysgolion yn cymryd rhan. Cynhyrchodd dros 4,500 o ddisgyblion waith celf gwrth hiliol. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.


Dosbarth o ysgol Hafod-y-Wern oedd yn fuddugol y llynedd, ac fe gynhyrchwyd ffilm ganddynt. Roedd eu gwobrau yn cynnwys gliniadur ar gyfer eu hysgol a diwrnod hwyl pêl-droed SRtRC.


Er mwyn dod o hyd i sut i ymgeisio, ewch i www.theredcard.org, ffoniwch SRtRC ar 029 2034 0422 neu e bostiwch wales@theredcard.org. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 16 Mawrth 2012.


• Mae Dangos y Cerdyn Coch i hiliaeth yn cynhyrchu deunyddiau addysgiadol gan gynnwys fideos, DVDs, cylchgronau, posteri a phecynnau addysgiadol. Ei nod yw ymladd hiliaeth gan ddefnyddio chwaraewyr pêl-droed a rygbi fel delfrydau ymddwyn.


 


Tu fewn… Buddugoliaeth Bandio    Melinwyr grawn yn rhydd!    Buddugoliaeth tribiwnlys i diwtor cartref yr NUT

Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4