This book includes a plain text version that is designed for high accessibility. To use this version please follow this link.
Gan yr NUT ar gyfer holl athrawon Cymru


Rhifyn 39 Tymor yr Haf 2011






‘Sarhad i athrawon’


Pleidleisiodd cynrychiolwyr yng nghynhadledd blynyddol yr NUT yn Harrogate yn ystod y Pasg er mwyn ymgyrchu’n syth yn erbyn cynigion niweidiol i fuddiannau aelodau a allai ddod o ganlyniad i ad-drefnu adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau y Cynulliad (APADGOS).


Dywedodd Neil Foden, aelod gweithredol yr NUT, y byddai’n croesawu newidiadau a fyddai’n cynyddu’r nifer o weithwyr APADGOS a chanddynt profiad dysgu diweddar (dim ond dau allan o 700 sydd yno ar hyn o bryd). A dywedodd bod cynlluniau i sicrhau sgiliau llythrennedd a rhifedd athrawon yn “sarhad ar broffesiynoldeb athrawon”, gofynnodd hefyd “ Ble mae’r dystiolaeth nad yw’r sgiliau hynny yn bodoli eisoes... yn y gweithlu gyfredol?”



Wrth eilio’r cynnig, darllenodd Beth Davies, Pennaeth Cynradd, o lythyr a anfonwyd ganddi at Weinidog Addysg Cymru yn tynnu sylw at y problemau a wynebir gan athrawon wrth ymdrin â chaledi a achoswyd gan ffactorau economaidd-gymdeithasol.


Roedd yn dadlau: “Rydych yn sôn am wneud ysgolion yn atebol am godi presenoldeb, beth ddylwn i roi ar gofrestr fy ysgol pan nad oedd mam yn medru anfon ei phlentyn i’r ysgol am ddau ddiwrnod gan nad oedd yn medru fforddio prynu esgidiau iddo?”





 


Recriwtwyr arbennig!


Mae’r Ysgrifenyddion Rhanbarthol ar y cyd Bernadette Thomas a Liz McClean wedi bod yn brysur yn ehangu aelodaeth yr NUT yn Sir Ddinbych ers dwy flynedd – ac nawr mae eu gwaith yn cael ei gydnabod gyda gwobr Datblygu Aelodaeth anrhydeddus yr Undeb.


Sir Ddinbych oedd yr enillwyr. Cyflwynwyd y wobr i Bernadette a Liz gan Ysgrifennydd Cyffredinol yr NUT Christine Blower ar ran y rhanbarth yng nghynhadledd blynyddol yr NUT yn Harrogate ym mis Ebrill. Dywedodd Bernadette: “Rydym wrth ein bodd i dderbyn y wobr. Mae pobl yn gweithredu pan fo angen help arnynt. Er mwyn aros mae angen magu cyfeillgarwch gydag eraill, a dyna gwnaethom ni. Mae croeso i bob aelod o’r NUT i’r cyfarfodydd ac rydym yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol er mwyn cadw diddordeb pobl.”


Mae tîm Bernadette a Liz yn cynnwys ysgrifennydd aelodaeth Caroline Van Niekerk a’r Llywydd Mairwenna Lloyd sydd hefyd wedi cynyddu’r nifer o gynrychiolwyr yr NUT yn 71 ysgol Sir Ddinbych. Pan ddechreuodd Liz roedd 18 cynrychiolydd, erbyn hyn mae 51.


Gall gynrychiolwyr ysgol eich hysbysu am ymgyrchoedd yr NUT, a chynorthwyo i ddatrys problemau yn eich ysgol. Er mwyn darganfod sut i ddod yn gynrychiolydd, cysylltwch â’ch ysgrifennydd cymdeithas/rhanbarth neu ffoniwch swyddfa NUT Cymru ar 029 2049 1818.


 


 


Tu fewn… Byddwch yn ran o Batagonia Yr NUT yn gorymdeithio dros ddewis arall Yr NUT yn Eisteddfod yr Urdd

Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4